Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 1 June 2016

Awyren ar y traeth! Ynys-las, Mehefin 1940





Yn ystod haf 2012, recordiodd staff CBHC gyfres o gyfweliadau â phobl yr oedd ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r hen safle datblygu rocedi yn Ynys-las, Ceredigion (NPRN 408393). Cofiodd un o’r rheiny a holwyd, Mr David Williams, fel y bu’n rhaid i awyren lanio ar y traeth un diwrnod.



Dyma adysgrif o’r sgwrs:

DW: …. un o’n rhai ni diolch byth! Dim byd cyffrous iawn, dim ond awyren fyddai’n cael ei defnyddio i dynnu targedau yn yr awyr. Fe wnaeth yr awyren hedfan o Dywyn lle roedd safle milwrol a maes awyr. Daeth o’r safle hyfforddi gwrthawyrennol yn Nhonfannau ger Tywyn. Fe fydden nhw’n hedfan o hyd yn baralel â thraeth y Borth, ryw ddwy neu dair milltir allan, ychydig bach mwy efallai. A bydden nhw’n saethu’n dragywydd at y targedau. Felly dyna ni, fe fyddai’n mynd i fyny ac i lawr. Yn y fanno oedd y safle, wyddoch chi, ac yn y man roedd yn rhan o’r olygfa eto.

MP: Wyddoch chi pam glaniodd yr awyren ar y traeth?

DW: Gwn, doedd yr awyren laniodd ar y traeth ddim o Dywyn fel mae’n digwydd. Roedd hi’r un math o awyren, Hawker Henley. Hawker Henley oedd ar fenthyg gan gwmni Rolls Royce. Roedd yn cael ei defnyddio i brofi injan ‘vulture’ Rolls Royce oedd yn cael ei datblygu ar y pryd. Y gobaith oedd rhoi’r injan yn yr Avro Manchester - rhagflaenydd y Lancaster - a chafodd ei rhoi mewn Hawker Henley i hedfan o gwmpas y wlad i’w phrofi. Torrodd yr injan i lawr ac fe laniodd yn y Borth ac roedden nhw’n gorfod rhoi injan newydd i mewn iddi. A thorrodd honno hefyd. Mae’r holl ddogfennau gen i - daeth dyn yma i wneud ymchwil i’r cyfan ac yn garedig iawn fe roddodd gopïau o gofnodion Rolls Royce am y digwyddiad. Yn fuan wedi hynny cafodd cledrau rheilffordd eu gosod ar hyd y traeth. Dwn i ddim a oedd hynny’n gyd-ddigwyddiad neu beidio - neu oedden nhw’n meddwl os gallen ni lanio yno, gallai’r Almaenwyr wneud hefyd. Faint o bobl fyddai’n gwybod am hynny mewn gwirionedd? Byddai pobl yn meddwl dyna awyren ar y traeth a dim byd mwy na hynny, wyddoch chi.




Ar ôl i’r recordio ddod i ben dywedodd Mr Williams ei fod yn teimlo nad oedd pobl yn credu ei stori pan fyddai’n trafod y digwyddiad.

Wrth chwilio drwy gasgliad awyrluniau RAF Medmenham rywdro arall, daethom ar draws ffotograff a dynnwyd ar 14 Mehefin 1940. Roedd awyren hyfforddi a oedd yn dysgu technegau tynnu awyrluniau (Cyf. MWO7) wedi digwydd cofnodi llun o’r awyren ar y traeth (Ffrâm D 21), gan gadarnhau stori Mr Williams.

Gan Medwyn Parry


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin