Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 10 May 2016

Gwobr am Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes





Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Dr David Gwyn, awdur Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol, wedi derbyn Gwobr Peter Neaverson am Ysgolheictod Rhagorol y Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol ar gyfer y flwyddyn 2016.

David Gwyn oedd enillydd cyntaf y wobr yn 2009, ond roedd yr holl feirniaid o’r farn na ellid anwybyddu Llechi Cymru. Pan glywodd y newyddion, dywedodd David:

‘Mae’n fraint fawr derbyn gwobr Peter Neaverson am Llechi Cymru. Mae’r wobr yn adlewyrchu safon uchel y golygu a’r cynhyrchu sy’n nodweddiadol o gyhoeddiadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.’

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno iddo yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol ym mis Medi.

Bydd David hefyd yn siarad ar ran y Comisiwn Brenhinol am ddiwydiant llechi Cymru yng Ngŵyl y Gelli ar Ddydd Iau 2 Mehefin.

Dr David Gwyn (canol) yn ystod lansiad y llyfr yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn, ger Bangor, ym mis Mai 2015.

Ynghylch Llechi Cymru
:
Mae’r llyfr hwn yn disgrifio pob agwedd ar ddiwydiant llechi Cymru. Yn ogystal â chynnig arweiniad cynhwysfawr i archaeoleg ac olion ffisegol y diwydiant, mae’n ymdrin â’i hanes cymdeithasol a’i arwyddocâd heddiw yn stori esblygol Cymru. Roedd y llyfr yn allweddol hefyd yn yr ymgyrch i gynnwys Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr dros dro y DU ar gyfer Enwebiad Treftadaeth y Byd.

Mae’r llyfr ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg:

Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5).

Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8)

Llyfrau fformat mawr yw’r rhain, yn cynnwys 291 o dudalennau a 243 o ddelweddau o ansawdd uchel. Y pris yw £45.

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â’r Comisiwn Brenhinol ar 01970 621248, nicola.roberts@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin