Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 13 April 2016

Y Daith Gerdded Fawr Gymreig – Comin Gelligaer: Trysordy Archaeolegol 14 Mai, 11am–3pm





Comin Gelligaer yw un o’r tirweddau archaeolegol mwyaf hynod yng Nghymru a rhoddir sylw iddo yn Archaeoleg Ucheldir Gwent/Archaeology of the Gwent Uplands gan Frank Olding, cyfrol ddwyieithog o eiddo’r Comisiwn Brenhinol a gyhoeddir eleni. Ar Ddydd Sadwrn, 14 Mai, bydd David Leighton, uwch archaeolegydd y Comisiwn, yn arwain taith dywys addysgiadol a diddorol drwy’r rhostir llwm ond prydferth hwn. Fel rhan o Daith Gerdded Fawr Gymreig Ramblers Cymru, a gynhelir bob blwyddyn drwy gydol mis Mai, bydd cerddwyr yn gallu mynd ar daith bum milltir o hyd i weld safleoedd sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at yr Oesoedd Canol. Taith gerdded weddol hawdd yw hon a dylai gymryd tua phedair awr i’w chwblhau, gan gynnwys seibiant ar gyfer cinio. Mae’r comin yn ficrocosm o archaeoleg cymoedd de Cymru cyn y Chwyldro Diwydiannol.

Ar hyd y ffordd, un o’r safleoedd mwyaf diddorol a welwch fydd y Garreg Arysgrifedig Gristnogol Gynnar ar Gefn Gelligaer sy’n fwy na 2.5m o hyd. Ar un adeg yr oedd arysgrif ger gwaelod wyneb gogleddol y garreg a oedd yn darllen NEFROIHI - “carreg Nía-Froích” - a oedd, o bosibl, yn coffáu rhyfelwr o Wyddel, ac sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y chweched neu ddechrau’r seithfed ganrif. Y cyntaf i wneud cofnod o’r garreg hon oedd Edward Lhuyd ym 1693, ond ni ellir gweld yr arysgrif bellach. Byddwn wedyn yn symud ymlaen i weld yr anheddiad canoloesol a elwir yn Ddinas Noddfa. Cafodd y safle hwn ei gloddio yn y 1930au dan oruchwyliaeth y Foneddiges Aileen Fox. Byddwn hefyd yn ymweld â nifer o garneddau cylchog o’r Oes Efydd, gan gynnwys carnedd gylchog ysblennydd Carn y Bugail sy’n mesur 19.5m (o’r dwyrain i’r gorllewin) wrth 15.8m. Mae wedi’i gosod o fewn ymylfaen o slabiau enfawr sy’n gogwyddo tuag allan ac mae piler triongli Arolwg Ordnans wedi’i godi arni. Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd “esgyrn ac yrnau” a thair cistfaen gyfochrog eu darganfod yma.

Yng nghwmni staff eraill y Comisiwn Brenhinol, gan gynnwys Richard Suggett, ein hanesydd pensaernïol, bydd David Leighton yn cynnig ei arbenigedd hanesyddol ar hyd y ffordd ac yn rhannu’r cyfoeth o wybodaeth a gasglodd yn ystod y blynyddoedd lawer a dreuliodd fel cydlynydd prosiect llwyddiannus y Comisiwn ar uwchdiroedd Cymru. Mae’r daith yn argoeli bod yn brofiad difyr iawn i gerddwyr o bob oed ac yn gyfle prin i ddarganfod mwy am yr hanes sydd o’n cwmpas ymhob man!

Y man cyfarfod ar gyfer y daith yw maes parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Cwm Darran: NGR SO11360345.

Bydd llawer o’r safleoedd a welir ar y daith yn cael sylw yn Archaeoleg Ucheldir Gwent/Archaeology of the Gwent Uplands gan Frank Olding, cyfrol ddwyieithog a gyhoeddir gan y Comisiwn Brenhinol. Caiff ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ar Ddydd Iau, 4 Awst, yn y Babell Lle Hanes am 2pm.

Mae ychydig o leoedd ar y daith yn dal ar gael. I gael manylion pellach ac i gadw’ch lle cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk.
.
Golwg o Garreg Arysgrifedig Cefn Gelligaer o’r de-ddwyrain
NPRN: 305944, DS2015_143_001
Awyrlun yn dangos llwyfan tŷ canoloesol ar Gomin Gelligaer
NPRN: 15319, DD2015_009_132
Carn y Bugail: Maen capan
NPRN: 301283, DS2016_005_003


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin