Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 28 April 2016

Prosiect Cofebion Rhyfel Powys: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Ddi-dâl 2016





Mae 2590 o gofebion rhyfel wedi’u cofnodi yng Nghymru, yn amrywio o gofgolofnau ar eu traed eu hun a champweithiau cerfluniol i lechi syml mewn capeli, eglwysi, ysgolion, swyddfeydd post a banciau. Gyda’i gilydd, y rhain yw’r grŵp mwyaf o lawer o gofebion cyhoeddus yng Nghymru, a cheir enghreifftiau ym mron pob cymuned. Er bod enghreifftiau o ryfeloedd cynharach, yn enwedig Rhyfel De Affrica (1899-1902), gosodwyd y mwyafrif o’r cofebion yn y 1920au a thalwyd amdanynt drwy gyfraniadau gan bobl leol fel rheol. Mae’r ComisiwnBrenhinol wedi tynnu lluniau o gyfran dda o’r rhain ar gyfer Coflein, ein cronfa ddata ar-lein ac ar gyfer llawlyfr “Gofalu am Gofebion Rhyfel yng Nghymru” 2014.

Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw (Llywodraeth Cymru) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Prosiect Cofebion Rhyfel Powys 2014-2018: Arwydd o Barch. Pwrpas y prosiect hwn yw coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel rhan o’r prosiect mae cystadleuaeth ffotograffiaeth yn cael ei chynnal i gofnodi’r cofebion rhyfel. Fel yr eglura Nathan Davies, Swyddog Prosiect Cofebion Rhyfel Powys, “Rydym yn gwybod am tua 300 o gofebion rhyfel ym Mhowys, yn amrywio o groesau cerrig i ffenestri lliw, o blaciau i gerfluniau. Ond mae’n debygol fod yna lawer mwy na hyn. Un o nodau’r prosiect yw canfod, cofnodi a chatalogio’r holl gofebion Rhyfel Byd Cyntaf yn y sir. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i gofeb ryfel, cymryd ffotograff ohoni, llenwi'r ffurflen gais a’i e-bostio atom. Dyna'r cyfan! Byddwch yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael cyfle i ennill cyfran o'r wobr ariannol o £200.”

Cystadleuaeth ddi-dâl yw hon, ac mae dau gategori o gystadleuwyr: pobl ifanc ac oedolion. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Dydd Gwener, 10 Mehefin, 2016. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen y prosiect ar y wefan www.growinpowys.co.uk/2091/competitions neu cysylltwch â Nathan Davies:

E-bost: warmemorials@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827 597
Gwefan: www.growinpowys.co.uk
Cyngor Sir Powys, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA

Y beirniaid yw Iain Wright, cyn ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol, a chynrychiolwyr o’r Eglwys yng Nghymru a’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Cofeb ryfel Llanfair ym Muallt NPRN: 419416, DS2013_438_003
Cafodd y gofeb hon ei chodi ar safle amlwg yn y fynedfa i’r Groe, ac mae’n ymgorffori ffigurau sy’n cynrychioli’r fyddin, y llynges, y llu awyr a’r llynges fasnachol.

Cofeb ryfel sir Drefaldwyn NPRN: 32916, DS2013_514_002
Mae gan Gofeb Ryfel y Sir, ar gopa Town Hill, Trefaldwyn, le amlwg yn y dirwedd a gellir ei gweld o filltiroedd i ffwrdd.

Tŵr cloc cofeb ryfel Rhaeadr NPRN: 32982, DS2013_440_003
Mae’r eiconograffi gwladgarol ar Dŵr Cloc Cofeb Ryfel Rhaeadr yn dangos draig y Cymry yn trechu eryr ymerodrol yr Almaen.

Gwn Twyn-y-garth NPRN: 437, DS2013_515_001
Mae un o gofebion rhyfel mwyaf atgofus Cymru i’w gweld ar fryn Twyn-y-garth. Howitser Almaenig o’r Rhyfel Byd Cyntaf ydyw, sef ‘leichte Feldhaubitzer105 mm’. Cafodd y gwn ei lwyr adfer yn 2001 i goffáu’r mileniwm.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin