Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 30 November 2015

Trefnwch Eich Lle yn awr ar gyfer ein Darlith Nadolig: Dod â phaentiadau wal i’r golwg—Celf Goll y Murlun Canoloesol






Murlun yn portreadu Gwawdio Crist yn Eglwys Llandeilo Tal-y-bont. NPRN: 94698

Caiff pobl eu synnu’n aml wrth ddarganfod bod ein hynafiaid yn byw ac yn addoli mewn adeiladau a oedd yn llawn lliw a dyluniadau cywrain. Mae archif y Comisiwn Brenhinol yn gartref i gasgliad hynod ddiddorol o furluniau domestig a chrefyddol o bob cyfnod. Mae’r delweddau hyn yn cynnwys paentiadau canoloesol sy’n dynwared tapestrïau, portreadau rhyfeddol, a’r murluniau canoloesol unigryw a ddarganfuwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn y 1980au yn Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, Morgannwg ac sydd wedi’u hadfer i’w llawn ogoniant yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd.



Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, a gawsai ei gadael yn wag, cyn ei symud i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a’i hadfer. NPRN: 94698

Ail-gread y Comisiwn Brenhinol o furlun o angel yn Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont. NPRN:94698


 

Bydd Richard Suggett yn trafod yr archif nodedig hwn yn narlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol am 5.30pm ar Ddydd Mercher, 2 Rhagfyr. I gael manylion pellach, cysylltwch â Nicola Roberts, nicola.roberts@rcahmw.gov.uk,  Ffôn: 01970 621248.




Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 27 November 2015

Arolwg Cyfannol ar gyfer Ymgysylltu Cymunedol





Mae Wessex Archaeology a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi wedi ymgymryd â phrosiect ar y cyd i fesur a phwyso gwerth defnyddio arolygon digidol cyfunol i ennyn diddordeb cymunedau lleol mewn diogelu asedau treftadaeth.

Lleoliad y prosiect, a oedd yn rhan o Ddyddiau Agored Treftadaeth 2015, oedd yr Old Church of St Nicholas, Uphill, Gwlad yr Haf, nad yw ar agor yn aml iawn i’r cyhoedd. Y nod oedd ymgymryd ag ymchwiliad archaeolegol gan ddefnyddio cyfuniad o sganio laser, Arolwg Gorsaf Gyflawn, Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant, cloddio a geoffiseg i gasglu gwybodaeth am yr adeilad i’r Ymddiriedolaeth, ond hefyd i annog gwirfoddolwyr lleol i gymryd rhan yn yr arolwg a derbyn hyfforddiant mewn technegau arolygu a chloddio. Cafodd y data crai eu prosesu ar y safle fel bod y gwirfoddolwyr yn gweld ffrwyth eu gwaith, a dewiswyd rhannau o’r gwaith hwn ar gyfer arddangosfa a gynhaliwyd ar y diwrnod agored terfynol.


Bydd Paul Baggaley a Damien Campbell Green yng nghynhadledd Gorffennol Digidol i drafod y prosiect ac a all cydweithio o’r fath arwain at ymgysylltu tymor-hir.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 25 November 2015

Ordnance Survey Large Print Collection at the National Monuments Record of Wales





Our first blog requesting assistance in identifying the location of one of our Ordnance Survey large prints was solved by one of our Facebook followers in a little more than 24 hours. The second puzzle was solved in only 46 minutes from when the item was posted on-line - an amazing result.


Our latest brain-teaser may take a little longer. The photograph is of a rural area, with a small collection of houses on a main road. A few farms can be seen, and in the top-right portion of the frame there is a sharp bend in a river.

Can you identify where this is? If so, please let us know.

By Medwyn Parry


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 19 November 2015

Dod â phaentiadau wal i’r golwg: celf goll y murlun canoloesol





Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol
Dod â phaentiadau wal i’r golwg: celf goll y murlun canoloesol
Richard Suggett

Nos Fercher 2 Rhagfyr, 5.30pm

  • Cynnig llyfrau Nadolig: rhai teitlau newydd am hanner pris neu lai. Yr anrheg Nadolig perffaith!
  • Cyfle i weld deunydd archifol gwreiddiol
  • Lluniaeth tymhorol



Adeilad y Goron, Plascrug, Aberystwyth SY23 1NJ
Fe’ch cynghorir i sicrhau eich lle. Ffôn: 01970 621200


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 18 November 2015

Ewch ati i Wau eich Traphont Ddŵr eich hun! Archifau sy’n Ysbrydoli





Pontcysyllte Aqueduct NPRN: 33410 (DI2008_0375)

Dechreuodd fy obsesiwn gyda gwau cyn gynted ag y dysgais sut i’w wneud yn iawn. Un Nos Galan, saith neu wyth mlynedd yn ôl, fe lwyddais o’r diwedd, ar ôl i rywun ddangos i mi sut i godi pwythau mewn ffordd roeddwn i’n ei deall.

Un sgarff hir iawn yn ddiweddarach, roeddwn i’n barod am sialensiau newydd. Daeth fy mhrosiectau’n fwyfwy uchelgeisiol, y nodwyddau’n deneuach a’r edafedd yn feinach.

Gwau ceinciog (neu wau Fair Isle) yw un o’m ffefrynnau. Rydw i wedi mwynhau gwneud hetiau, cyflau, menig a phethau eraill gan ddefnyddio’r dechneg hon. Pan welais yr hen lun o draphont ddŵr Pontcysyllte, roeddwn i’n meddwl y byddai’r llinellau gosgeiddig a’r gyfres o fwâu yn gwneud patrwm gwych ar gyfer cwfl (mae cwfl ar siâp tiwb ac mae’n cael ei wisgo yn lle sgarff; weithiau mae’n cael ei alw’n snŵd).


Ar ôl symleiddio’r ddelwedd fe ddefnyddiais bapur graff i’w throi’n siart ar gyfer gwau. Os yw’n ymddangos braidd yn hir o’r gwaelod i’r top, y rheswm am hyn yw bod lled y pwyth gwau yn fwy na’i uchder, a rhaid caniatáu ar gyfer hyn neu fe fydd y dyluniad terfynol yn edrych yn wasgedig.

Ydych chi’n barod? Mae’n amser rhoi’r manylion technegol.

CYFARWYDDIADAU

Bydd y patrwm yn cael ei wau mewn edafedd 4-cainc (neu bwysau edafedd main (fingering)), ar nodwyddau tenau, 3mm neu lai. Dim ond pwyth plaen sy’n cael ei ddefnyddio, a dim ond dau liw ar y tro, heblaw am y top lle mae’n rhaid i’r ddwy res gyntaf o fanylion y bont (mewn du) gael eu brodio (pwyth dyblyg) ar y darn gorffenedig. Yr ailadroddiad patrwm yw 14 pwyth, ac mae’n ailadrodd 16 o weithiau ym mhob rownd.

Mae rhai ceinciau rhydd (floats) yn eithaf hir a bydd angen i chi eu dal wrth i chi wau.

Dylech ddysgu am edafedd trechol mewn gwau ceinciog cyn dechrau. Mae esboniad da ar gael yma: http://paper-tiger.net/blog/13911317/colordominance.

Pwrpas y stribedi fertigol glas/gwyn yw eich helpu i gyfrif y pwythau, dim byd arall. Mae’r ailadroddiad patrwm wedi’i amlinellu mewn coch ar ochr dde’r siart.

Yr unig fyrfoddau sy’n cael eu defnyddio yw; MC – ‘main colour’; CC – ‘contrast colour’.

Sylwer. Nid yw’r patrwm wedi cael ei brofi.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Edafedd glas i gynrychioli’r dŵr (CC1)
  • Edafedd gwyrdd/brown ar gyfer y tir (byddai rhywbeth brith gydag ailadroddiad hir, fel Noro Kureyon Sock S236, yn ddelfrydol) (CC2)
  • Edafedd glas golau ar gyfer yr awyr (CC3)
  • Edafedd llwyd ar gyfer y draphont ddŵr (gwnewch yn siŵr fod y lliw yn sefyll allan yn erbyn y cefndir) (MC)
  • Edafedd du ar gyfer manylion y bont (CC4)
Neu gallech ei gwau mewn lliwiau llachar a hollol annaturiol – chi biau’r dewis!

Codi 182 pwyth yn CC1 gan ddefnyddio’r dull cynffon hir. Uno yn y rownd.

Gweithio rib 1x1 am o leiaf 5 rhes, neu am hirach os dymunwch.

Newid i CC2 ac MC hyd at y llinell goch gyntaf. Gweithio’r siart mewn pwyth plaen, gan wneud yn siwr eich bod yn dal y ceinciau rhydd ac yn rhoi sylw i’r edafedd trechol (MC yw’r lliw trechol bob amser).

Newid i CC3 ac MC. Gweithio hyd at yr ail linell goch.

Newid i CC4 ac MC. Newid yr edafedd trechol i CC4 ar gyfer yr adran hon. Gweithio hyd at y llinell goch nesaf.

Newid yn ôl i CC3 ac MC. Ailgychwyn gydag MC yn edafedd trechol a gweithio rib rychiog 1x1 hyd at y rhes olaf.

Gweithio’r rhes olaf mewn CC4 yn unig.

Cau’r pwythau. Brodio (pwyth dyblyg) manylion du coll y bont yn y ddwy res cyn yr ail linell goch. Tacluso’r pennau rhydd.

Llongyfarchiadau! Gallwch yn awr wisgo’r Safle Treftadaeth Byd.

Gan Ania Skarzynska

 
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 13 November 2015

Archifau sy’n Ysbrydoli, 18 Tachwedd, 2015





Eleni, fel rhan o’n hymgyrch Archwiliwch eich Archifau, byddwn yn cynnal digwyddiad Archifau sy’n Ysbrydoli ar 18 Tachwedd 2015, rhwng canol dydd a 7 yr hwyr. Fe fydd darlithiau ar ffotograffiaeth ac arddangosiadau o LiDAR, GIS, cynhyrchu lluniadau ail-greu a modelu 3D digidol a fydd yn dangos gwahanol ffyrdd o edrych ar y byd. Fe fydd tri artist preswyl wrth law ar y diwrnod i helpu i’ch ysbrydoli i greu rhywbeth gwreiddiol eich hun gan ddefnyddio copïau o ddeunydd o’n harchifau.
Darlun cyfryngau cymysg wedi’i greu gan The Mad Mountain Stitchers ar ôl iddynt gael eu hysbrydoli gan y ffotograff o lowyr ym Mhyllau Coety. 

Glowyr ym Mhyllau Coety, o Gasgliad John Cornwell, NPRN: 433.

Hyd yn oed os na allwch ymuno â ni, beth am edrych ar Coflein, ein cronfa ddata a chatalog ar-lein o safleoedd. Mae miloedd o ddelweddau anhygoel yma a fydd yn eich ysbrydoli i bobi teisen, cyfansoddi cerdd neu baentio llun. Hoffem i chi wneud copi digidol o’ch campwaith a’i anfon i ni erbyn 17 Ionawr 2016. Bydd pob gwaith a gyflwynir yn cael ei roi mewn oriel ar wefan Casgliad y Werin Cymru ac fe gyhoeddir detholiad ohonynt yn y cylchgrawn Planet. Byddwn hefyd yn arddangos eich gwaith yn 2016 yn Amgueddfa Ceredigion.
Dilynwch y cyswllt i ddarganfod mwy am y digwyddiad a sut i gyflwyno eich gwaith creadigol wedi’i ysbrydoli gan archifau’r Comisiwn Brenhinol.

http://www.rcahmw.gov.uk/HI/ENG/Our+Services/Outreach+/Inspirational+Archives/

Edrychwn ymlaen at weld sut rydych chi wedi cael eich ysbrydoli!



Teisen wedi’i gwneud gan Sue Fielding, wedi’i hysbrydoli gan luniad y Comisiwn Brenhinol o Fryndraenog.



Bryndraenog, Beguildy NPRN: 81056.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

LinkWithin