Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 7 December 2015

Y Diweddaraf am ein Casgliad o Brintiau Mawr Arolwg Ordnans





Yn ystod yr wythnosau diwethaf buom yn gofyn i’n darllenwyr ein helpu i adnabod aneddiadau yr oedd yr Arolwg Ordnans wedi tynnu ffotograffau ohonynt.

Mae’r postiadau hyn wedi bod yn eithriadol o boblogaidd, ac mae canlyniadau ein hapeliadau am wybodaeth wedi dangos mor rymus yw’r cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd y ffotograff cyntaf ei adnabod mewn ychydig dros 24 awr gan Kokoro Kimochi fel ardal Saint Mary Hill ger Pen-y-bont ar Ogwr. Fe’i tynnwyd ar y 13eg o Fai 1992 ar uchder o 8,000 troedfedd, ffilm 92-093, ffrâm 032.

Saint Mary Hill ger Pen-y-bont ar Ogwr

Cafodd ein hail gais am wybodaeth ei ateb mewn cwta 46 munud ar ôl postio’r llun ar wefan Treftadaeth Cymru. Rhoddodd Steve Bailey John wybod i ni fod y ffotograff yn dangos Jameston yn Ne Penfro. Ar ôl edrych yn ein cofnodion, cadarnhawyd i’r llun gael ei dynnu ar yr 2il o Chwefror 1989, ar uchder o 5,300 troedfedd, ffrâm 026 o ffilm 89-247.

Jameston yn Ne Penfro

Fe gymerodd ychydig o ddyddiau i ddarllenwyr ein Blog ddatrys dirgelwch y trydydd ffotograff. Cafodd ei enwi fel pentref Pentre-bach, i’r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae ein cofnodion yn dangos i’r llun gael ei dynnu ar uchder o 8,100 troedfedd ar y 6ed o Fai 1993, ffrâm 086 o ffilm 93-134.

Pentre-bach, i’r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion

Diolch i bob un ohonoch am eich diddordeb a’ch cymorth.

Gan Medwyn Parry.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin