Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 10 December 2015

Archifau sy’n Ysbrydoli – Archwiliwch Eich Archifau 2015: Wedi’r Digwyddiad





Mad Mountain Stitchers gwaith

Roedd ein diwrnod Archifau sy’n Ysbrydoli yn llwyddiant rhyfeddol, y tu hwnt i’n holl obeithion. Er gwaethaf y tywydd erchyll, daeth llawer o ymwelwyr diddorol a brwdfrydig i wrando ar y sgyrsiau, gweld yr arddangosiadau ac arddangosfeydd, a chymryd rhan yn y gweithdai creadigol.

Mae ein dyled yn fawr i arweinwyr y gweithdai a roddodd yn hael o’u hamser, adnoddau, egni a syniadau i arwain ein pedwar gweithdy.

Hoffem ddiolch i Carmen Mills, Judith Woodings, Marie-Genevieve Rolande Pierre, a’r Mad Mountain Stitchers: roeddech i gyd yn wych ac rydym yn mawr werthfawrogi eich ymdrechion.

Collage du a gwyn

Bu Carmen a Judith yn hwyluso’r ddau weithdy collage – un lliw, un du a gwyn – a gweithdy cerfluniol. Arweiniodd Marie-Genevieve weithdy celf lyfr i ni. Yn ogystal â rhoi benthyg eu croglun Big Pit a llawer o ddarnau llai eraill ar gyfer ein harddangosfa ganolog, bu’r Mad Mountain Stitchers yn eistedd a phwytho i ni drwy’r dydd – ac yn ein difyrru’r un pryd!

Llawer iawn o ddiolch hefyd i’r aelodau staff a roddodd sgyrsiau ac arddangosiadau; a helpodd gyda’r paratoadau; a gymerodd ran yng ngweithgareddau’r dydd; ac a roddodd gymorth cyffredinol i ni.

Ac yn awr mae gennym ddwy greadigaeth syfrdanol newydd ar waliau ein hystafell goffi; atgofion o ddiwrnod bendigedig; a, gobeithiwn, llawer iawn o ddarnau i ddewis o’u plith ar gyfer Planet!

Os nad ydych wedi creu neu gyflwyno eich gwaith ysbrydoledig eisoes, mae digon o amser o hyd. Y dyddiad cau yw 17 Ionawr 2016. I gael gwybod sut i gyflwyno eich gwaith, ewch i

Gan Lynne Moore


Collage lliw

Gweithdy Cerfluniol

Gweithdy Celf Lyfr

Gweithdy Celf Lyfr

Gweithdy Celf Lyfr


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin