Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 18 November 2015

Ewch ati i Wau eich Traphont Ddŵr eich hun! Archifau sy’n Ysbrydoli





Pontcysyllte Aqueduct NPRN: 33410 (DI2008_0375)

Dechreuodd fy obsesiwn gyda gwau cyn gynted ag y dysgais sut i’w wneud yn iawn. Un Nos Galan, saith neu wyth mlynedd yn ôl, fe lwyddais o’r diwedd, ar ôl i rywun ddangos i mi sut i godi pwythau mewn ffordd roeddwn i’n ei deall.

Un sgarff hir iawn yn ddiweddarach, roeddwn i’n barod am sialensiau newydd. Daeth fy mhrosiectau’n fwyfwy uchelgeisiol, y nodwyddau’n deneuach a’r edafedd yn feinach.

Gwau ceinciog (neu wau Fair Isle) yw un o’m ffefrynnau. Rydw i wedi mwynhau gwneud hetiau, cyflau, menig a phethau eraill gan ddefnyddio’r dechneg hon. Pan welais yr hen lun o draphont ddŵr Pontcysyllte, roeddwn i’n meddwl y byddai’r llinellau gosgeiddig a’r gyfres o fwâu yn gwneud patrwm gwych ar gyfer cwfl (mae cwfl ar siâp tiwb ac mae’n cael ei wisgo yn lle sgarff; weithiau mae’n cael ei alw’n snŵd).


Ar ôl symleiddio’r ddelwedd fe ddefnyddiais bapur graff i’w throi’n siart ar gyfer gwau. Os yw’n ymddangos braidd yn hir o’r gwaelod i’r top, y rheswm am hyn yw bod lled y pwyth gwau yn fwy na’i uchder, a rhaid caniatáu ar gyfer hyn neu fe fydd y dyluniad terfynol yn edrych yn wasgedig.

Ydych chi’n barod? Mae’n amser rhoi’r manylion technegol.

CYFARWYDDIADAU

Bydd y patrwm yn cael ei wau mewn edafedd 4-cainc (neu bwysau edafedd main (fingering)), ar nodwyddau tenau, 3mm neu lai. Dim ond pwyth plaen sy’n cael ei ddefnyddio, a dim ond dau liw ar y tro, heblaw am y top lle mae’n rhaid i’r ddwy res gyntaf o fanylion y bont (mewn du) gael eu brodio (pwyth dyblyg) ar y darn gorffenedig. Yr ailadroddiad patrwm yw 14 pwyth, ac mae’n ailadrodd 16 o weithiau ym mhob rownd.

Mae rhai ceinciau rhydd (floats) yn eithaf hir a bydd angen i chi eu dal wrth i chi wau.

Dylech ddysgu am edafedd trechol mewn gwau ceinciog cyn dechrau. Mae esboniad da ar gael yma: http://paper-tiger.net/blog/13911317/colordominance.

Pwrpas y stribedi fertigol glas/gwyn yw eich helpu i gyfrif y pwythau, dim byd arall. Mae’r ailadroddiad patrwm wedi’i amlinellu mewn coch ar ochr dde’r siart.

Yr unig fyrfoddau sy’n cael eu defnyddio yw; MC – ‘main colour’; CC – ‘contrast colour’.

Sylwer. Nid yw’r patrwm wedi cael ei brofi.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Edafedd glas i gynrychioli’r dŵr (CC1)
  • Edafedd gwyrdd/brown ar gyfer y tir (byddai rhywbeth brith gydag ailadroddiad hir, fel Noro Kureyon Sock S236, yn ddelfrydol) (CC2)
  • Edafedd glas golau ar gyfer yr awyr (CC3)
  • Edafedd llwyd ar gyfer y draphont ddŵr (gwnewch yn siŵr fod y lliw yn sefyll allan yn erbyn y cefndir) (MC)
  • Edafedd du ar gyfer manylion y bont (CC4)
Neu gallech ei gwau mewn lliwiau llachar a hollol annaturiol – chi biau’r dewis!

Codi 182 pwyth yn CC1 gan ddefnyddio’r dull cynffon hir. Uno yn y rownd.

Gweithio rib 1x1 am o leiaf 5 rhes, neu am hirach os dymunwch.

Newid i CC2 ac MC hyd at y llinell goch gyntaf. Gweithio’r siart mewn pwyth plaen, gan wneud yn siwr eich bod yn dal y ceinciau rhydd ac yn rhoi sylw i’r edafedd trechol (MC yw’r lliw trechol bob amser).

Newid i CC3 ac MC. Gweithio hyd at yr ail linell goch.

Newid i CC4 ac MC. Newid yr edafedd trechol i CC4 ar gyfer yr adran hon. Gweithio hyd at y llinell goch nesaf.

Newid yn ôl i CC3 ac MC. Ailgychwyn gydag MC yn edafedd trechol a gweithio rib rychiog 1x1 hyd at y rhes olaf.

Gweithio’r rhes olaf mewn CC4 yn unig.

Cau’r pwythau. Brodio (pwyth dyblyg) manylion du coll y bont yn y ddwy res cyn yr ail linell goch. Tacluso’r pennau rhydd.

Llongyfarchiadau! Gallwch yn awr wisgo’r Safle Treftadaeth Byd.

Gan Ania Skarzynska

 
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin