Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 29 September 2015

Cyfarfod Busnes Agored y Comisiynwyr, 22 Hydref, 2015





Bydd y Comisiynwyr a benodwyd gan y Goron i oruchwylio gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar Ddydd Iau, 22 Hydref, 2015 yn swyddfa’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth rhwng 4.30pm a 7pm. Mae’r cyfarfod yn rhan bwysig o ymrwymiad y Comisiwn Brenhinol i atebolrwydd cyhoeddus a thryloywder, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ddod i’r cyfarfod a gweld y Comisiwn ar waith.

Bydd Dr Eurwyn Wiliam yn cadeirio’r cyfarfod a bydd yr Ysgrifennydd, Christopher Catling, yn rhoi cyflwyniad byr ar waith y Comisiwn yn y dyfodol. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ôl y cyfarfod, a chyfle bryd hynny i siarad yn anffurfiol â’r Cadeirydd, yr Ysgrifennydd a’r Comisiynwyr.

Nid yw’n costio dim i fynychu’r cyfarfod ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Cynhelir y cyfarfod yn Saesneg. Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg yn cael ei ddarparu os rhoddwch wybod i ni wrth drefnu’ch lle yr hoffech fanteisio ar y gwasanaeth hwn.

Cysylltwch â Nicola Roberts – nicola.roberts@cbhc.gov.uk; ffôn: 01970 621248 – i gadw lle neu i ofyn am fwy o wybodaeth.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin


Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin