Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 26 August 2015

Ymchwilio i Hanes eich Tŷ





Cilgant, Maesderwen, Pont-y-pŵl.
DI2006_1042 NPRN 400741

Hanes Tai

Mae cyfoeth o wybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) am adeiladau domestig a all helpu i ddatgelu ac egluro hanes eich tŷ ddoe a heddiw. Mae ein casgliadau’n cynnwys adroddiadau, arolygon, mapiau, lluniadau, ffotograffau ac awyrluniau yn ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig. Mae gennym lyfrgell arbenigol hefyd sy’n gartref i lawer o gyhoeddiadau sy’n ymdrin â hanes adeiladau ar hyd a lled Cymru.

Os yw eich tŷ yn hen gapel, ysgol, tafarn, melin, goleudy neu adeilad masnachol neu ddiwydiannol, mae’n ddigon posibl bod gennym ddeunydd yn ymwneud ag ef yn ein casgliadau.

Back Row’, Onllwyn: bythynnod gweithwyr deulawr, bellach wedi’u dymchwel.
DI2008_1332 NPRN 407800

Casgliadau

  • Mae lluniadau, cynlluniau pensaernïol, arolygon safl e ac adluniadau o ansawdd uchel yn adnodd ardderchog ar gyfer manylion pensaernïol.
  • Gall delweddau (ffotograffau a chardiau post) gynnig cyfoeth o wybodaeth gefndirol, gyd-destunol a phenodol iawn weithiau am hanes eich tŷ. Mae ein casgliadau’n cynnwys ffotograffau o du mewn a thu allan adeiladau sy’n dangos sut maent hwy wedi newid dros y degawdau.
  • Defnyddiwch ein casgliad mawr o fapiau Arolwg Ordnans i ddod o hyd i adeiladau, darganfod ffi niau tir a chaeau a gweld sut y gall y rhain fod wedi newid dros amser.
  • Mae’r casgliadau o Gynlluniau Ystad a Manylion Gwerthu yn cynnwys disgrifi adau hynod ddiddorol o adeiladau, a gwybodaeth am ddaliadau tir a defnydd tir cysylltiedig.
  • Gallwch ddefnyddio awyrluniau i leoli eich tŷ o fewn ei gyd-destun ehangach. Mae gennym gasgliadau mawr o awyrluniau sy’n amrywio o ran dyddiad o 1918 hyd heddiw. A yw eich tŷ chi yn un o’r lluniau hyn?

Uwcholwg a golwg o Acorn Cottage, The Close, Llanfairfechan.
DI2010_1096 NPRN 96649

Mae disgrifi adau o adeiladau unigol i’w cael yn CHCC hefyd, gan gynnwys:
  • Adroddiadau arolwg
  • Disgrifi adau hanesyddol
  • Toriadau o bapurau newydd
  • Nodiadau
  • Briffi au gwylio
  • Adeiladau Rhestredig Cadw
Gall ein casgliad bach ond cynhwysfawr o lyfrau llyfrgell, cylchgronau a phamffl edi arbenigol hefyd helpu i ddarparu manylion pensaernïol, hanesyddol, economaidd a chymdeithasol cyd-destunol a phenodol. A gall y rhestri sirol a gyhoeddwyd gan CBHC fod yn fan cychwyn defnyddiol. Mae gennym hefyd gyhoeddiadau mwy penodol ar ffermdai, bythynnod, capeli, melinau, ac adeiladau diwydiannol.

Llun tirwedd o Sawmill Cottage, Anheddiad Camlas Garthmyl, Aberriw.
DI2006_1042 NPRN 400741

Gwasanaethau

Defnyddiwch COFLEIN, ein cronfa ddata ar-lein, i chwilio am safl eoedd sydd o ddiddordeb i chi, bwrw golwg dros gasgliadau sydd wedi’u catalogio, a gweld delweddau o bob rhan o Gymru – www.coflein.gov.uk

Dewch i’n llyfrgell ac ystafell chwilio i weld llyfrau, cylchgronau a deunydd archifol gwreiddiol o CHCC. Rydym ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Llun o breniau to Cefn Caer, Pennal.
DI2006_0988 NPRN 28277

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ

Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
Blog: www.newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin


Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin