Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 7 August 2015

Penodi Comisiynwyr (Dwy Swydd)





Allwch chi ein helpu i ddarparu'r gwasanaethau amgylchedd hanesyddol gorau posibl i bobl Cymru?

Archif a gwasanaeth ymchwilio cenedlaethol annibynnol, unigryw i Gymru yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae wedi'i neilltuo i ddehongli a chofnodi'n awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Rydym yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae gennym staff medrus sy'n darparu cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i'r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell dealltwriaeth o'n hadeiladau a'n tirweddau hanesyddol, a sicrhau eu bod yn cael gwell gofal, a chydnabod potensial treftadaeth i helpu i wella bywydau pobl.

Sefydlwyd y Comisiwn drwy Warant Frenhinol ym 1908 ac erbyn hyn, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell o gyllid yw Llywodraeth Cymru. Trwy ein gwaith, rydym yn:

  • Ymchwilio i archeoleg, adeiladau, tirweddau a gweddillion morol o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw a’u cofnodi;
  • Gofalu'n barhaol am archif cyfoethog Cymru o'r amgylchedd hanesyddol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru;
  • Cefnogi pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy adnoddau ar-lein, gweithgarwch allgymorth cymunedol a chyhoeddiadau;
  • Rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i reoli'r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy a moesego. 

Gan adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar, rydym yn awr yn dymuno tyfu a datblygu ein sefydliad at y dyfodol. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n Bwrdd Comisiynwyr sy'n barod i helpu i gyfarwyddo, herio ac adolygu ein gwaith mewn modd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i gadarnhau ein bwrdd ac amrywio ei aelodaeth, felly rydym yn chwilio am aelodau newydd sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol:

  • Profiad o ddulliau masnachol o weithio, marchnata a gwaith cysylltiadau cyhoeddus a hanes llwyddiannus o godi arian; 
  • Arbenigedd mewn rheoli archifau; 
  • Arbenigedd mewn gweithio gyda chymunedau, yn enwedig grwpiau anodd eu cyrraedd, ar lefel strategol, ac ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth; 
  • Profiad o ddarparu trosolwg ac her adeiladol i sefydliadau â nodau elusennol; 
  • Gwybodaeth am ofynion rôl lywodraethu ar lefel uchel, a hanes llwyddiannus o ymgymryd â rôl o’r fath. 
I gael rhagor o wybodaeth: http://bit.ly/1ghFqYb


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin