Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 12 August 2015

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru





Carreg Corbalengi, Penbryn.
DI2008_0439 NPRN 304135

Archif treftadaeth adeiledig Cymru

Mae mwy na chanrif o arolygu, cofnodi a chasglu wedi arwain at greu archif unigryw sy’n adrodd hanes y newidiadau mawr yn nhirwedd hanesyddol Cymru. Mae’n cynnwys deunydd ar bob agwedd ar hanes archaeolegol, pensaernïol, eglwysig, diwydiannol, amddiffynnol ac arforol y wlad.
Cewch ynddo gofnodion ar:
  • Tai
  • Adeiladau fferm
  • Eglwysi
  • Capeli
  • Ysgolion
  • Cylchoedd Cerrig
  • Bryngaerau
  • Llociau
  • Safleoedd Rhufeinig
  • Cestyll
  • Myntiau
  • Camlesi
  • Rheilffyrdd
  • Gweithfeydd haearn
  • Pyllau glo
  • Melinau
  • Goleudai
  • Ffatrïoedd
  • Gerddi
  • Llongddrylliadau
  • Plastai
  • Carneddau
... a llawer, llawer mwy

Gorsaf Drydan Cei Connah.
DI2005_0676 NPRN 96149

Casgliadau

  • Ffotograffau hanesyddol a modern
  • Lluniadau
  • Mapiau hanesyddol
  • Awyrluniau hanesyddol a modern
  • Arolygon archaeolegol ac archifau cloddio
  • Adroddiadau a chynlluniau pensaernïol
  • Arolygon digidol
  • Adluniadau
  • Data cwmwl pwyntiau o sganio laser daearol
  • GIS – Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Ail-greu digidol – modelau 3D ac animeiddiadau
  • Llyfrgell arbenigol
Defnyddiwch COFLEIN, ein cronfa ddata ar-lein, i chwilio am safleoedd sydd o ddiddordeb i chi, bwrw golwg dros gasgliadau sydd wedi’u catalogio, a gweld delweddau o bob rhan o Gymru.

Llun o gloddiadau yng Nghastell Aberystwyth.
DI2012_2005 NPRN 86

Defnydd

  • Hanes lleol a theuluol
  • Hanes tai
  • Gwneud modelau
  • Addysg bellach ac uwch
  • Ysbrydoliaeth artistig
  • Lluniau ar gyfer eich sgyrsiau, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd
  • Twristiaeth
  • Cyfryngau / y wasg
  • Asesiadau desg
  • Darganfod ffiniau
  • Astudiaethau ardal ar gyfer ffermydd gwynt, llwybr pibellau ac ati
  • Materion cynllunio
  • Ymchwilio i safleoedd archaeolegol
  • Byrddau gwybodaeth
Dewch i’n llyfrgell ac ystafell chwilio i weld llyfrau, cylchgronau a deunydd archifol gwreiddiol o CHCC. Rydym ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Coeden Jesse, Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.
DI2012_0275 NPRN 165239

Gwasanaethau

  • Gwasanaeth ymholiadau am ddim i’r cyhoedd
  • Gwasanaeth chwilio blaenoriaethol
  • Llyfrgell ac ystafell chwilio gyda mynediad i’r rhyngrwyd a wi-fi am ddim
  • Llyfrgell ddelweddau
  • Ymweliadau gan grwpiau
  • Adnoddau addysgol
  • Digido
  • Setiau data a mapio digidol
Ystafell chwilio Henebion Cenedlaethol Cymru.
DS2007_479_002

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ

Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
Blog: www.newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin