Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 18 May 2015

Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes






Bydd cyfrol sydd yn adrodd hanes diwydiant newidiodd tirlun a chymunedau Cymru yn cael ei lansio yr wythnos hon mewn castell fu ynghanol anghydfod diwydiannol gyda’r hiraf erioed yn hanes gwledydd Prydain.

Mae Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes yn cael ei gyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn ffrwyth cydweithio efo Dr Dafydd Gwyn, archaeolegydd diwydiannol sydd yn byw ym Mhen y Groes yn Nyffryn Nantlle. Mae’rlgyfrol yn cyfuno diddordeb oes Dr Gwyn yn y diwydiant ac arbenigedd cofnodi y Comisiwn ynghyd â’i archif gweledol enfawr.

Does gan Dr Gwyn yr un amheuaeth am bwysigrwydd y diwydiant:

“Mae’r diwydiant llechi wedi gadael ei ôl nid yn unig ar dirlun y wlad ond mae hefyd wedi cael effaith gymdeithasol a diwyllianol ddofn ar Gymru a’r byd tu hwnt.”

Mae’r Athro Merfyn Jones, sydd wedi ysgrifennu’r rhagair ar gyfer y llyfr, yn cytuno:

“Efallai bod y Chwyldro Diwydiannol wedi cael ei sefydlu ar decstiliau a’i yrru gan stêm; ond cafodd ei doi efo llechi wedi eu rhwygo o fryniau Eryri.”

Chwareli Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, dinas y chwarelwyr (AP_2011_3093, NPRN 305760)

Statws Treftadaeth y Byd

Roedd llechi o chwareli ar hyd a lled Gwynedd yn cael eu defnyddio i doi rhannau helaeth o’r byd ar un cyfnod, ac mae arwyddocad byd-eang hyn yn cael ei gydnabod trwy gynnwys Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr betrus Safleoedd Treftadaeth y Byd y DU i’w gyflwyno i UNESCO.

Mae’r llyfr yn gyfraniad pwysig er mwyn datblygu’r cais, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r Cynghorydd Mandy Davies-Williams, Cadeirydd Pwyllgor Llywio’r cais, yn credu y bydd y llyfr nid yn unig yn gam pwysig tuag at ennill Statws Treftadaeth y Byd UNESCO ond hefyd yn cael effaith yn lleol:

“Bydd y llyfr yma yn helpu pobl Gwynedd i ymhyfrydu mewn rhan arall o dreftadaeth gyfoethog y sir, gan sicrhau y bydd y diwydiant yn parhau i ddod â buddion o bob math i’r rhai sydd yn byw yn y cymunedau chwarelyddol a thu hwnt heddiw.”

Cymodi

Mae Llechi Cymru yn hynod gynhwysfawr a’r ymchwil yn drylwyr ond mae hefyd wedi ei ysgrifennu mewn dull sydd yn hawdd i’w ddarllen ac wedi ei ddarlunio gan luniau a ffotograffau eithriadol.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn swyddogol yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn ger Bangor. Cafodd y castell neo-Normanaidd ei adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn 1900, fe wnaeth anghydfod rhwng yr Arlgwydd Penrhyn a chwarelwyr Bethesda arwain at streic filain barodd am dair blynedd ac mae lansiad y gyfrol yma yn cael ei ystyried heddiw yn gam pwysig tuag at gymodi y castell a’r cymunedau gerllaw.


NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Mae’r llyfr ar gael yn Gymraeg a Saesneg:

Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5).

Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8).

Mae rhain yn lyfrau fformat mawr o 291 tudalen gyda 243 darlun o safon uchel a’r gôst yw £45.

Bydd y lansiad yn digwydd yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn, Llandygai, Bangor 17:30 – 19:30 Thursday 21 Mai 2015.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch efo’r Comisiwn ar 01970 621200, chc.cymru@cbhc.gov.uk.

Am wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:

Nicola Roberts, Comisiwn Henebion Brenhinol Cymru, nicola.roberts@cbhc.gov.uk Tel:- 01970 621248

Y Comisiwn Brenhiol ar Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiliedig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth honno yn genedlaethol ac yn rhyngwaldol.

Gwefan: www.cbhc.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin