Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 29 May 2015

Lansio cyhoeddiad newydd y Comisiwn Brenhinol, ‘Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes’, yng Nghastell Penrhyn





Yr wythnos ddiwethaf cafodd cyhoeddiad newydd y Comisiwn Brenhinol, ‘Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes’, ei lansio’n swyddogol. Cynhaliwyd y lansiad yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn ger Bangor.

Penrhyn Castle and its parkland, with Bethesda and Penrhyn quarry in the middle distance.  The neo–Norman castle was built in the nineteenth century and was the home of Lord Penrhyn, owner of Penrhyn quarry. NPRN: 16687
 Roedd y castell, cyn gartref yr Arglwydd Penrhyn, perchennog chwarel y Penrhyn, ar un adeg yn gysylltiedig ag un o’r anghydfodau diwydiannol hwyaf erioed yn hanes Prydain. Ym 1900, arweiniodd gwrthdaro rhwng yr Arglwydd Penrhyn a chwarelwyr Bethesda at streic chwerw a barodd am dair blynedd. Mae’r castell bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ystyriwyd bod lansio’r llyfr yn y lleoliad hwn yn weithred o gymodi drwy ddwyn ynghyd dreftadaeth y castell a’r cymunedau o’i gwmpas.


Croesawyd pawb gan Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol.

Arweiniwyd y lansiad gan Bethan Jones Parry o Gyngor Gwynedd a chafwyd gair o groeso gan Dr Eurwyn Wiliam (Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol) ac araith fer gan yr awdur, Dr David Gwyn. Cafwyd cyfraniad arbennig ac arwyddocaol gan yr actor John Ogwen, a anwyd ac a fagwyd ym Methesda, a fu’n darllen rhannau o’r llyfr, a dilynwyd hyn gan ddatganiad gwych gan ddisgyblion Canolfan Gerdd William Mathias (http://www.cgwm.org.uk/eng/ ). 


Yr actor John Ogwen yn darllen o’r llyfr.

Gan fod y llyfr yn gwneud cyfraniad o bwys i’r enwebiad datblygol ar gyfer Statws Treftadaeth Byd i Ddiwydiant Llechi Gogledd Cymru, daeth y lansiad i ben gydag areithiau gan Mandy Williams-Davies, un o Gynghorwyr Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Grŵp Llywio’r cais, a Syr Neil Cossons, awdurdod blaenllaw ar dreftadaeth ddiwydiannol a threftadaeth byd.

Grŵp llywio’r Cais Treftadaeth Byd.  Arweinir y Grŵp gan Gyngor Gwynedd a’r aelodau eraill yw CBHC, Cadw, Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymgynghoriaeth Govannon, Prifysgol Bangor a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


Mae fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r llyfr ar gael:

Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5)

Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8).

Llyfrau fformat mawr yw’r rhain yn cynnwys 291 o dudalennau a 243 o ddarluniau o ansawdd uchel. Y gost yw £45, neu £40.50 yn unig i Gyfeillion y Comisiwn.

Fel rhan o’r Ŵyl Archaeoleg, bydd Dr David Gwyn yn rhoi sgwrs am y llyfr yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth ar 15 Gorffennaf 2015, o 4:30pm tan 7:00pm. Fe’ch cynghorir i drefnu’ch lle. Estynnir croeso cynnes i bawb.

I gael mwy o fanylion cysylltwch â’r Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200, chc.cymru@cbhc.gov.uk.

Gellir gweld lluniau pellach o’r lansiad ar ein tudalen Facebook https://www.facebook.com/#!/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin