Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 1 April 2015

AR GAEL NAWR! Cyhoeddiad Newydd gan y Comisiwn Brenhinol: ‘Llechi Cymru - Archaeoleg a Hanes’ gan David Gwyn






Ar un adeg, arferid gweld llechi o chwareli yng Nghymru ar doeau ledled y byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cynifer â thraean o’r holl lechi to a gynhyrchid ledled y byd yn dod o Gymru, gan gystadlu â chwareli yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Mae’r llyfr hwn yn olrhain y diwydiant o’i fan cychwyn yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ei ddatblygiad canoloesol araf ac yna ei ehangiad enfawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – yn ogystal â thrwy ei ddirywiad araf yn yr ugeinfed ganrif.

Llun o Chwarel Dinorwig o’r gorllewin, ar draws Llyn Peris (AP_2010_2454, NPRN 40538)

Mae awdur y llyfr, David Gwyn, yn creu darlun cynhwysfawr o’r diwydiant arbennig hwn ar sail astudiaeth fanwl o archaeoleg ddiwydiannol helaeth y chwareli eu hunain a thystiolaeth hanesyddol y tirweddau syfrdanol y maent wedi’u lleoli ynddynt, yn ogystal â chofnodion cyfreithiol a chofnodion cwmni, llyfrau porthladd, papurau newydd lleol a chenedlaethol, cylchgronau masnach, casgliadau o baentiadau a ffotograffau, a hanesion plwyf.

Yr injan drawst Gernywaidd yn Chwarel Dorothea, Nantlle, a adeiladwyd yn 1904-06 (DI2013_0723, NPRN 26409)

Neilltuir rhai penodau i’r chwareli eu hunain a’r dulliau a ddefnyddid i gloddio’r llechfaen a’i brosesu. Mae penodau eraill yn rhoi sylw i’r dystiolaeth am y technolegau a’i gwnaeth hi’n bosibl i greu’r chwareli – y systemau pwmpio a phŵer, y systemau cludiant mewnol a thros y tir, a’r llongau hwylio a allforiai’r llechi gorffenedig i bedwar ban byd.

Melin ‘Australia’, 1924, yn Chwarel Dinorwig a’i rhes o fyrddau llifio (DS2013_509_005, NPRN 419478)

Mae’n edrych hefyd ar yr aneddiadau a’r cymunedau nodedig a grëwyd gan y chwarelwyr a’u teuluoedd, mewn trefi fel Bethesda a Blaenau Ffestiniog, a phentrefi fel Deiniolen, Tal-y-sarn ac Abergynolwyn.

Chwareli Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, dinas y chwarelwyr (AP_2011_3093, NPRN 305760)

Llyfr fformat mawr gyda 291 o dudalennau yw Llechi Cymru. Archaeoleg a Hanes. Ceir ynddo 243 o luniau o ansawdd uchel a’r pris yw £45.


Llechi Cymru - Archaeoleg a Hanes
I gael manylion pellach ac i archebu copi, cysylltwch â’r Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200, chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin