Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 4 February 2015

‘Dyluniad clawr blaen gan Kyffin Williams’







Rydw i wedi cael fy nghyfareddu ers erioed gan gloriau un gyfres neilltuol o arweinlyfau ar gestyll Cymru o’r 1960au cynnar. Nid oeddwn erioed wedi ystyried pwy oedd yr arlunydd. Wrth edrych yn ôl, mae’n hollol amlwg. Sylwodd cydweithiwr ar ‘ysgrif lyfryddol’ fer gan John Kenyon yn The Castle Studies Group Journal (cyfrol 27) a oedd yn trafod yr union un arweinlyfrau. Datgelodd i’r cloriau gael eu dylunio gan neb llai na Kyffin Williams.

Mae’r cloriau wedi’u hargraffu mewn du ac un lliw arall ar gefndir gwyn gan ddefnyddio proses sydd, rydw i’n credu, yn cael ei galw’n lithograffi offset. Mae hyn yn creu golwg arbennig a oedd yn gyffredin yn llyfrau darluniadol y cyfnod. Credaf y bu cyfyngiadau’r broses argraffu yn fodd i ddwysáu effaith y dyluniadau beiddgar a thrawiadol. Efallai y dylid eu cyhoeddi fel printiau celf gain. Fe fyddwn i’n prynu un.

Roeddem yn eithriadol o falch o ddarganfod bod y pedwar arweinlyfr yn ein llyfrgell, a bod dau fersiwn o’r clawr gan o leiaf un ohonynt, sef Castell Caernarfon: yr un mewn lliw llwytfrown sydd i’w weld yn erthygl John Kenyon, ac un arall mewn lliw oren-goch llachar. A oes amrywiadau eraill? Rhowch wybod os gwyddoch am rai.

Dr Anna Z. Skarżyńska     Swyddog Archif a Llyfrgell


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin