Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 9 February 2015

Canolfan Ddarganfod Ddigidol Samsung yr Amgueddfa Brydeinig







Bydd Canolfan Ddarganfod Ddigidol yr Amgueddfa Brydeinig yn darparu cyfleoedd dysgu digidol i ryw 10,000 o ymwelwyr ysgol a theuluol bob blwyddyn. Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Juno Rae a Lizzie Edwards, cyd-reolwyr rhaglen ddysgu’r Ganolfan, yn y gynhadledd Gorffennol Digidol i gyflwyno ‘A gift for Athena’, app newydd, wedi’i greu ar y cyd â’r cwmni datblygu gemau Gamar, sy’n defnyddio realiti estynedig i gyfoethogi ymweliadau gan fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 2 ag oriel Parthenon yr Amgueddfa Brydeinig.



Gan ddefnyddio cyfrifiaduron llechen wedi’u darparu gan y Ganolfan, mae’r app yn annog y myfyrwyr i astudio cerfluniau’r Parthenon ac i ddysgu am bensaernïaeth a mytholeg Hen Roeg drwy gyfrwng amrywiaeth o heriau a phosau.

Bydd Juno a Lizzie yn trafod datblygiad y sesiwn ddysgu digidol arloesol hon ac yn rhannu eu profiadau drwy sôn am fanteision a heriau ymgorffori realiti estynedig yng ngweithgareddau dysgu amgueddfa.
Gwefan: http://www.britishmuseum.org/learning/samsung_centre.aspx
Twitter: @britishmuseum
#Samsungcentre

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd

Wedi’i threfnu gan: +Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin