Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 20 February 2015

Can Mlynedd I Heddiw…





Cafodd mwy na 170 o longau, awyrennau a llongau awyr eu colli ar hyd arfordir Cymru o ganlyniad i ymosodiadau gan y gelyn neu wrth gefnogi’r ymdrech ryfel.
…. yr agerlong CAMBANK, wedi’i chofrestru yng Nghaerdydd, oedd y llong gyntaf i gael ei suddo yn nyfroedd Cymru gan long danfor o’r Almaen yn y Rhyfel Mawr 1914-18.

Dechreuodd ymgyrch y llongau tanfor ar 4 Chwefror 1915, pan gyhoeddodd y Gadlywyddiaeth Almaenig fod unrhyw longau masnach yng nghyffiniau Prydain ac Iwerddon yn dargedau cyfreithlon. Roedd y llwybrau môr drwy Fôr Iwerddon, ar hyd arfordir gogledd Cymru i Afon Mersi, ac ar hyd arfordir de Cymru i Abertawe, y Barri a Chaerdydd yn eithriadol o bwysig ar gyfer mewnforio bwyd a defnyddiau i gynnal diwydiant a’r ymdrech ryfel. Collwyd mwy na 170 o longau masnach, llongau llynges, awyrennau a llongau awyr.

Clawr blaen un o restri criw y CAMBANK o gasgliadau Archifau Morgannwg. Diolchir yn arbennig i Rhian Phillips, Uwch Archifydd, am ganiatáu i ni gynnwys y ddogfen ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Mae casgliad newydd ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn dechrau rhoi sylw i rai o’r storïau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu yn ystod y misoedd nesaf.

Cafodd y CAMBANK ei hadeiladu gan John Readhead & Sons, South Shields, ym 1899, i’r cwmni llongau, W J Runciman & Son. Ei henw bryd hynny oedd y RAITHMOOR. Cafodd ei gwerthu i’r Merevale Shipping Co, Caerdydd, ym 1913, a newidiwyd enw’r llong i CAMBANK i gyd-fynd â thraddodiad enwi’r cwmni hwnnw. William Evans Thomas oedd y rheolwr enwebedig yn 17 Merchants Exchange, Bute Street.

Am 11 y bore ar 20 Chwefror 1915, cafodd y CAMBANK ei tharo gan dorpido wedi’i danio gan yr U-30 oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn. Roedd wedi bod ar daith o Huelva i Garston gyda llwyth o gopr. Suddodd mewn 20 munud. Cafodd badau achub y llong, gyda’r 21 o griw a oedd wedi goroesi, eu tynnu gan fab achub Porth Llechog ac yna’r iot arfog ORIANA i Amlwch.

Heddiw, am 11 y bore, bydd y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru yn cofio Joseph William Boyle, 30 oed, Trydydd Peiriannydd; Michael Lynch, 30 oed, Dyn Tân a Stowiwr; Robert Quigley, 34 oed, Dyn Injan Fach; a Charles Sinclair, 36 oed, Dyn Tân a Stowiwr – a’u teuluoedd.

Yn coffáu pawb a roddodd eu bywydau dros eu gwlad, ond nad oes ganddynt unrhyw fedd ond y môr.

Gwefan: http://www.peoplescollectionwales.co.uk/collections/415321
Gwefan: http://www.coflein.gov.uk/en/site/272145/details/CAMBANK/


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin