Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 6 November 2014

Trysorau O’n Harchif







A wyddech chi? Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, archif y Comisiwn Brenhinol, yn gartref i:
Mwy na miliwn o gofnodion ffotograffig
Mwy na 330 metr ciwbig o le storio archifau
Mwy na 102,000 o gofnodion digidol, y mae’r mwyafrif ohonynt ar gael ar-lein
Mwy na 70,000 o gynlluniau, lluniadau a delweddau graffig eraill


Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

Mae mwy na chanrif o arolygu, cofnodi a chasglu wedi arwain at greu archif unigryw sy’n adrodd hanes y newidiadau mawr yn nhirwedd hanesyddol Cymru. Mae’n cynnwys deunydd ar bob agwedd ar hanes archaeolegol, pensaernïol, eglwysig, diwydiannol, amddiffynnol ac arforol y wlad.
Ai dyma ‘hunan-lun’ cyntaf Cymru? Enghraifft o un o’r ffotograffau mwy anarferol yn ein harchif: defnyddiodd Isaac Hayley, diwydiannwr a ffotograffydd amatur brwd, wardrob gyda drych fel y gallai dynnu llun o’i adlewyrchiad ei hun ym mhlasty Glan-brân yn Sir Gâr oddeutu 1900.

Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin