Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 3 November 2014

Gorffennol Digidol 2015






Gorffennol Digidol 2015
Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

11 a 12 Chwefror 2015
Neudd Brangwyn, Neuadd y Ddinas, Abertawe


Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.

Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. Darperir ‘sesiynau anghynhadledd’ yn ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni. Bydd stondinau Arddangosfa a Phoster hefyd yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion, datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.

Bydd cynhadledd Gorffennol Digidol 2015 yn cael ei chynnal yn ninas Abertawe. Cynhelir y digwyddiad yn adeiladau ysblennydd Neuadd y Ddinas sy’n cynnwys Neuadd Brangwyn, Neuadd Siôr ac Ystafell yr Arglwydd Faer.

Y themâu eleni yw ‘Treftadaeth Weledol’ a ‘Archaeoleg Gyhoeddus a Chymunedol Ddigidol’.

I gael gwybodaeth am y gynhadledd ewch i: http://www.gorffenoldigidol2015.blogspot.co.uk

I gofestru ewch i: http://www.eventbrite.co.uk/e/digital-past-2015-registration-12330355425?aff=eac2

a dilynwch #gorffennoldigidol2015

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gynhadledd Gorffennol Digidol 2015


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin