Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 20 November 2014

Darganfod Tai Hanesyddol Eryri





Clawr y llyfr yn dangos Cae-glas, Llanfrothen, dyddiedig 1547/8, yn edrych tuag at y Cnicht. © Hawlfraint y Goron: CBHC

Un o’r cwestiynau a ofynnir amlaf am dai hanesyddol yw; ‘Pa bryd yn union y cafodd ei adeiladu?’ Rydym ni bellach yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn Eryri.

Ffrwyth prosiect newydd ei gwblhau i ddyddio’n wyddonol tua 100 o dai cynharaf Eryri a adeiladwyd cyn iddi ddod yn ffasiynol i arysgrifio dyddiadau arnynt yw Darganfod Tai Hanesyddol Eryri, a gyhoeddir ym mis Rhagfyr 2014.

Fel rhan o’r prosiect partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig bu llawer o berchnogion tai ac oddeutu 200 o bobl leol yn cymryd rhan mewn ymarfer uchelgeisiol mewn archaeoleg gymunedol. Mae wedi manteisio ar y dechnoleg newydd o ddyddio ar sail blwyddgylchau sy’n ei gwneud hi’n bosibl i ddyddio coed i’r flwyddyn, a hyd yn oed i’r tymor, y cafodd y goeden ei thorri i lawr.

Yn y llyfr fe gyflwynir canlyniadau’r prosiect, sy’n aml yn peri syndod, ynghyd â llawer o ffotograffau a chynlluniau na chawsant eu cyhoeddi o’r blaen. Ceir hanesion manwl tai neuadd o’r Oesoedd Canol a thai lloriog o bob math. Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys Tŷ-mawr, Wybrnant – cartref yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl cyfan i’r Gymraeg – y gwyddom bellach iddo gael ei adeiladu ym 1565, tua’r un adeg ag yr oedd y William Morgan ifanc yn gadael Penmachno am Gaergrawnt.

Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn lansio’r llyfr ar 4 Rhagfyr ym Mhlas Tan y Bwlch: “Fel rhywun sydd wedi byw ar hyd ei oes bron yn Eryri, alla i ond teimlo cynhesrwydd a pharch at yr adeiladau hyn, ynghyd ag ychydig o eiddigedd a rhyw ias o barchedig ofn!”

Yn sgil lansio’r llyfr, bydd darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yn cael ei thraddodi yn Aberystwyth ar Ddydd Gwener 5 Rhagfyr gan Richard Suggett (cyd-awdur) a fydd yn siarad ar y testun “Darganfod Tai Hanesyddol Eryri” am 1.30pm a 5.30pm. Darlithiau cyhoeddus yw’r rhain ond rhaid trefnu’ch lle. I gael manylion pellach, cysylltwch â’r Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200, chc.cymru@cbhc.gov.uk

Llyfr fformat mawr o 295 tudalen yw Darganfod Tai Hanesyddol Eryri. Ceir ynddo 225 o luniau o ansawdd uchel a’r gost yw £29.95 yn unig. Yr anrheg Nadolig berffaith!
Tŷ-mawr, Wybrnant, cartref yr Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. © Hawlfraint y Goron: CBHC

Oerddwr-isaf, Beddgelert, ffermdy hynafol yn ei dirwedd, dyddiedig 1494/5.  © Hawlfraint y Goron: CBHC

Addurn wedi’i stensilio o’r ddeunawfed ganrif, Bodllosged, Ffestiniog. © Hawlfraint y Goron: CBHC

I gael mwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Patricia Moore,
E-bost: patricia.moore@cbhc.gov.uk
Ffôn:- 01970 621200

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin