Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 12 November 2014

Casgliad Malcom Seaborne - Trysorau O’n Harchif







Ceir yn y casgliad hwn ffotograffau du a gwyn, nodiadau a lluniadau, ac amrywiaeth o ddeunydd wedi’i gopïo yn ymwneud ag ysgolion ac ystafelloedd ysgolion ar hyd a lled Cymru. Cafodd y wybodaeth ei dwyn ynghyd ar gyfer ei lyfr ‘Schools in Wales 1500-1900’ (cyhoeddwyd ym 1992), ac fe’i rhoddwyd wedyn i’n harchif. Mae’r ffotograffau, nodiadau a lluniadau yn gofnod pwysig o bensaernïaeth ysgolion: mae rhai o’r Ysgolion Fictoraidd wedi’u dymchwel, a chafodd eraill eu haddasu i’w defnyddio’n Ganolfannau Cymunedol a Llyfrgelloedd Cangen, neu eu troi’n dai.

Yr Hen Ysgol Ramadeg, Brynbuga  NPRN 410496 DI2010_0825
Yr Ysgol Genedlaethol, Llanengan NPRN 23226 DI2007_1560
Yr Ysgol Genedlaethol, Abergele NPRN 23348 DI2007_1561


Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin