Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 7 October 2014

Cyfle i siapio Coflein: cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol. Hoffem glywed eich barn!







Darlith a gweithdai yn y Comisiwn Brenhinol, 14 Hydref


Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gwahodd ymwelwyr i fwynhau prynhawn o ddarlithoedd  ac i gymryd rhan mewn trafodaeth i werthuso Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn, Dydd Mawrth, 14 Hydref, 2014.

Mae Coflein yn darparu mynediad ar-lein i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – cronfa ddata, catalog ac archif digidol yr amgylchedd hanesyddol cenedlaethol.

I ddechrau’r prynhawn, fe fydd David Thomas, Pennaeth Data a Thechnoleg, yn eich croesawu ac yn rhoi cyflwyniad i Coflein. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal wedyn i roi cyfle i bawb drafod cronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol o safleoedd a chasgliadau, gofyn cwestiynau, trafod problemau sydd wedi codi, ac awgrymu datblygiadau at y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn archaeoleg a’r amgylchedd hanesyddol, hanes lleol, awyrluniau, hanes tai ac adeiladau crefyddol, hanes morwrol a llongddrylliadau, fe fydd ffynonellau sy’n berthnasol i chi ar Coflein.

Bydd dau weithdy’n cael eu cynnal. Bydd y cyntaf rhwng 2pm a 3.30pm a’r ail rhwng 4pm a 5.30pm. Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei ddarparu. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu’ch lle, cysylltwch â Nicola Roberts: mailto:nicola.roberts@cbhc.gov.uk Ffôn: 01970 621248.

Croeso i bawb, pa faint bynnag o brofiad sydd gennych. Dewch i ddarganfod rhagor a rhannu eich barn!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin