Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 26 September 2014

Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol a Threftadaeth Cymru






 
“Mae pob pafiliwn neu dŷ clwb wedi gorfod ymladd i gael ei adeiladu ac mae pob clwb wedi wynebu ei frwydr ei hun i oroesi. Dyma pam ein bod ni’n coleddu ein meysydd chwarae ac yn eu hamddiffyn yn ffyrnig.” Eddie Butler

Er y gall Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fod yn enwog drwy’r byd, mae llawer ohonom yn cymryd parciau, meysydd chwarae a chanolfannau hamdden yn ganiataol. Yn Fields of Play, mae’r awdur, Daryl Leeworthy, yn olrhain hanes y safleoedd cyhoeddus hyn ac yn edrych ar effaith chwaraeon ar dirwedd Cymru fodern.

Mae’n ystyried yr amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, o’r parc cyhoeddus cynharaf a agorwyd ym 1858 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, i bwll nofio Llwyn Onn yn Wrecsam a agorwyd ym 1854, i’r tiroedd lles niferus a sefydlwyd ar draws Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Rhoddir sylw hefyd i leoliadau chwaraeon llai hysbys, megis y llawr Troed-rolio Americanaidd yng Nghaerdydd a adeiladwyd ym 1908, stadiwm rasio milgwn Welsh White City o 1928 a’r Stadiwm Rasio Beiciau Modur byrhoedlog yn Heol Penarth yn y 1950au.

Llun a dynnwyd tua 1934 o gêm o dennis yn adfeilion Palas yr Esgob, Tyddewi, NPRN: 21633
Mae gweithgareddau llai adnabyddus megis y rasys Powderhall, pêl-wthio, pêl-fas a rasys dringo mynyddoedd mewn ceir, a hefyd ddatblygiad caeau chwarae antur a chanolfannau hamdden, i gyd yn cael sylw, ochr yn ochr â’r campau mawr – rygbi, pêl-droed a chriced – sy’n cael bron yr holl sylw yn y wasg heddiw.

Trafodir hefyd dreftadaeth chwaraeon Cymru yn fwy cyffredinol, mewn pennod ar rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol sy’n edrych ar yr isadeiledd a grëwyd wrth i feicio, cerdded y mynyddoedd, dringo a hosteli ieuenctid ddod yn boblogaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Ceir yn Fields of Play 172 o ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych, gan gynnwys llawer o ddelweddau sydd heb eu gweld o’r blaen o archif Aerofilms yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r gyfrol yn codi’r llen ar yr agwedd bwysig hon ar dreftadaeth adeiledig Cymru a bydd yn cynyddu ein gwerthfawrogiad o leoedd chwaraeon yn y dirwedd.

Beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud i ddathlu Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol ar Ddydd Mawrth, 30 Medi 2014 mae’n werth cofio y byddai gennym lawer llai o gyfleusterau chwaraeon heddiw oni bai am ymdrechion y rheiny a frwydrodd i greu parciau a lleoedd agored Cymru dros ganrif yn ôl.

Pris y llyfr yw £9.95 ac mae ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ym mhob siop lyfrau dda.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales gan Daryl Leeworthy, gyda Rhagair gan Eddie Butler, wedi’i gyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2012, 180 o dudalennau, 172 o ddarluniau, maint 252x224mm.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin