Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 26 September 2014

Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol a Threftadaeth Cymru






 
“Mae pob pafiliwn neu dŷ clwb wedi gorfod ymladd i gael ei adeiladu ac mae pob clwb wedi wynebu ei frwydr ei hun i oroesi. Dyma pam ein bod ni’n coleddu ein meysydd chwarae ac yn eu hamddiffyn yn ffyrnig.” Eddie Butler

Er y gall Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fod yn enwog drwy’r byd, mae llawer ohonom yn cymryd parciau, meysydd chwarae a chanolfannau hamdden yn ganiataol. Yn Fields of Play, mae’r awdur, Daryl Leeworthy, yn olrhain hanes y safleoedd cyhoeddus hyn ac yn edrych ar effaith chwaraeon ar dirwedd Cymru fodern.

Mae’n ystyried yr amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, o’r parc cyhoeddus cynharaf a agorwyd ym 1858 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, i bwll nofio Llwyn Onn yn Wrecsam a agorwyd ym 1854, i’r tiroedd lles niferus a sefydlwyd ar draws Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Rhoddir sylw hefyd i leoliadau chwaraeon llai hysbys, megis y llawr Troed-rolio Americanaidd yng Nghaerdydd a adeiladwyd ym 1908, stadiwm rasio milgwn Welsh White City o 1928 a’r Stadiwm Rasio Beiciau Modur byrhoedlog yn Heol Penarth yn y 1950au.

Llun a dynnwyd tua 1934 o gêm o dennis yn adfeilion Palas yr Esgob, Tyddewi, NPRN: 21633
Mae gweithgareddau llai adnabyddus megis y rasys Powderhall, pêl-wthio, pêl-fas a rasys dringo mynyddoedd mewn ceir, a hefyd ddatblygiad caeau chwarae antur a chanolfannau hamdden, i gyd yn cael sylw, ochr yn ochr â’r campau mawr – rygbi, pêl-droed a chriced – sy’n cael bron yr holl sylw yn y wasg heddiw.

Trafodir hefyd dreftadaeth chwaraeon Cymru yn fwy cyffredinol, mewn pennod ar rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol sy’n edrych ar yr isadeiledd a grëwyd wrth i feicio, cerdded y mynyddoedd, dringo a hosteli ieuenctid ddod yn boblogaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Ceir yn Fields of Play 172 o ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych, gan gynnwys llawer o ddelweddau sydd heb eu gweld o’r blaen o archif Aerofilms yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r gyfrol yn codi’r llen ar yr agwedd bwysig hon ar dreftadaeth adeiledig Cymru a bydd yn cynyddu ein gwerthfawrogiad o leoedd chwaraeon yn y dirwedd.

Beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud i ddathlu Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol ar Ddydd Mawrth, 30 Medi 2014 mae’n werth cofio y byddai gennym lawer llai o gyfleusterau chwaraeon heddiw oni bai am ymdrechion y rheiny a frwydrodd i greu parciau a lleoedd agored Cymru dros ganrif yn ôl.

Pris y llyfr yw £9.95 ac mae ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ym mhob siop lyfrau dda.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales gan Daryl Leeworthy, gyda Rhagair gan Eddie Butler, wedi’i gyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2012, 180 o dudalennau, 172 o ddarluniau, maint 252x224mm.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

Tuesday 16 September 2014

Drysau Agored 2014: Dewch i ddarganfod mwy am ein capeli!





Capel Bethel , Aberystwyth, NPRN:7149.
Capel Bethel, Aberystwyth, NPRN: 7147.
Mae ffasadau crand capeli Stryd y Popty yn parhau’n drawiadol 100 mlynedd a mwy ar ôl eu codi
.
Fel rhan o raglen Drysau Agored 2014, fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau ar 20 Medi ar gyfer diwrnod hanes capeli. Bydd y diwrnod yn cynnig sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw, arddangosfa o ddeunydd prin o’r archif, a chyfle i ddarganfod mwy am ein cronfa ddata o fwy na 6000 o gapeli a’r prosiect partneriaeth cyffrous rhwng y Comisiwn ac Addoldai Cymru. Am 1.30pm a 2pm fe fydd cyfle hefyd i ymuno â theithiau tywys i weld rhai o gapeli hanesyddol mwyaf arbennig Aberystwyth. Arweinir y teithiau gan arbenigwyr ar gapeli o’r Comisiwn Brenhinol a byddant yn dechrau o’r tu allan i’r English Baptist Chapel ym Maes Alfred ac yn cymryd rhwng 1½ awr a 2 awr. Ar ddiwedd y daith fe ddarperir te, teisen a bisgedi yng Nghanolfan Fethodistaidd Sant Paul, Morfa Mawr, Aberystwyth. I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu eich lle, cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621200.

Cychwynnodd y rhaglen Drysau Agored yn Ffrainc ym 1984 ac mae’n rhan o’r Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd a gynhelir ar draws Ewrop bob blwyddyn ym mis Medi ac a drefnir yng Nghymru gan Cadw. Dathliad blynyddol ydyw sy’n hyrwyddo pensaernïaeth a’r dreftadaeth adeiledig i’r gynulleidfa ehangaf bosibl drwy agor adeiladau nad ydynt ar agor fel arfer i’r cyhoedd, a thrwy gynnig mynediad am ddim i’r safleoedd hynny sy’n codi tâl fel rheol am fynd i mewn.

‘Dathliad cenedlaethol o’n treftadaeth yw Drysau Agored, ac mae’n gyfle gwych i bobl sy’n ymddiddori yn eu treftadaeth leol i rannu eu brwdfrydedd ag ymwelwyr drwy ddangos iddynt gornel fach hanesyddol o Gymru.’ Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, 2014


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

Tuesday 9 September 2014

Swydd Wag - Swyddog Addysg Casgliad y Werin Cymru





Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru neu Amgueddfa Lechi Cymru

29 awr yr wythnos

Cytundeb hyd at 31 Mawrth 2015
(cefnogir ceisiadau am secondiad)
Rhaglen ddwyieithog a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Casgliad y Werin Cymru sy’n galluogi unigolion i ddathlu hanes Cymru drwy rannu eu straeon personol eu hunain.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a darparu adnoddau addysg a hyfforddi arloesol wedi’u seilio ar raglen Casgliad y Werin Cymru. Bydd deiliad y swydd hefyd yn helpu i hyfforddi addysgwyr yn y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau i ddefnyddio’r wefan.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus dealltwriaeth dda o’r Cwricwlwm Cenedlaethol
yn ogystal â sgiliau rheoli project rhagorol a sgiliau cyfathrebu.

Mae’r swydd hon yn gofyn am Gymraeg llafar o safon dda, er enghraifft y gallu i chwarae rhan weithredol mewn cyfarfodydd a chyflwyniadau.

I wneud cais ewch i’n gwefan
www.amgueddfacymru.ac.uk
  
Dyddiad cau: 18 Medi 2014 (erbyn 5pm)

Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Croesew ceisiadau o bob rhan o’r gymdeithas.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday 1 September 2014

Drysau Agored 2014: Dewch i ddarganfod mwy am gapeli





Hen Gapel, Llwynrhydowen, nprn:11594
Sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw, deunydd o’r archif, a chyfle i ddarganfod mwy am y gronfa ddata o fwy na 6000 o gapeli a’r prosiect cyffrous ar y cyd rhwng y Comisiwn Brenhinol ac Addoldai Cymru.

Hen Dŷ Cwrdd, Capel Undodaidd, Trecynon, Aberdâr, CF44 8NT.
6 Medi, 10am-12pm. Arddangosfa a sgwrs gan Stephen Hughes, “Chapels: The National Architecture of Wales”.

Yr Hen Gapel, Llwynrhydowen, Rhydowen, Llandysul, Ceredigion, SA44 4QB.
13 Medi, 3-6pm. Côr lleol a sgwrs gan Stephen Hughes, “Chapels: The National Architecture of Wales”. Lluniaeth ar gael yn yr Alltyrodyn Arms, Rhydowen.

Seion Chapel, Aberystwyth, nprn:7147
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ. 20 Medi, sgyrsiau 11am-1pm, teithiau tywys 1.30pm a 2pm. Pymtheg o bobl ar y mwyaf fydd yn gallu mynd ar bob taith i weld capeli hanesyddol Aberystwyth. I gael mwy o wybodaeth ac i gadw eich lle, cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621200. Bydd y teithiau’n dechrau am 1.30pm a 2pm o’r tu allan i’r English Baptist Chapel, Alfred Place, Aberystwyth


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales



Share this post:

LinkWithin