Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 29 July 2014

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Sir Gâr, 1–9 Awst





Y Maes yn edrych yn ysblennydd wrth baratoi ar gyfer digwyddiad yr wythnos nesaf.
Yr wythnos nesaf, bydd y Comisiwn Brenhinol yn ymuno â chyrff treftadaeth eraill Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Drwy gydol yr wythnos, bydd staff wrth law i ateb cwestiynau a sgwrsio ag ymwelwyr. Dewch i’n gweld ni yn rhes dreftadaeth (stondin 601-603), lle byddwch hefyd yn dod o hyd i Cadw, Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Dyfed a Morgannwg-Gwent. Bydd ein harddangosfa newydd eleni yn canolbwyntio ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar Brydain oddi Fry, y prosiect cydweithredol llwyddiannus. Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys sgwrs gan Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, ar Ddydd Gwener 8 Awst am 10.30am ym Mhabell y Cymdeithasau 2, ar Darganfod hanes Dyfed: darganfyddiadau diweddar Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac eraill. Mae Cadw wedi trefnu cwis ar y cyd sy’n gofyn i ymwelwyr ateb deg cwestiwn wedi’u seilio ar wybodaeth y gellir ei chael yn rhwydd o stondinau’r pedwar corff treftadaeth. Y wobr fydd aelodaeth Cadw i deulu cyfan am flwyddyn. Dewch i roi cynnig arni!


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin