Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 8 July 2014

Aerofilms: Prydain oddi Fry yn dod i Faes Awyr Caerdydd





Francis Lewis Wills, y peilot Jerry Shaw a Claude Friese-Greene mewn awyren ddwbl DH9B, Gorffennaf 1919 
© English Heritage. Casgliad Aerofilms AFL03/Aerofilms/C12930.
O nawr tan 7 Tachwedd, 2014

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi dod â’i arddangosfa hynod ddiddorol o ddelweddau hanesyddol i Faes Awyr Caerdydd. Mae’r maes awyr modern prysur hwn yn lleoliad priodol iawn ar gyfer yr arddangosfa Aerofilms: Prydain oddi Fry sy’n dangos awyrluniau hanesyddol a dynnwyd ar draws Cymru. Mae’r lluniau’n cael eu harddangos drwy’r maes awyr a bydd teithwyr yn dod ar draws delweddau syfrdanol o archif unigryw Casgliad Aerofilms, sy’n dyddio o 1919 i 2006. Cafodd Aerofilms ei sefydlu yn nyddiau cynnar hedfan gan gyn-awyrenwyr beiddgar o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Arloeswyr yr awyr oeddynt a gychwynnodd fusnes ffotograffiaeth awyr masnachol cyntaf y byd. Gan ddwyn ynghyd grŵp o anturwyr, siewmyn a selogion hedfan, cyfunodd y cwmni dechnoleg newydd hedfan â disgyblaeth ffotograffiaeth. O’r cychwyn cyntaf, tynnodd Aerofilms luniau o bron pob anheddiad a thirwedd yr hedfanodd drostynt. Cafodd y casgliad ei brynu yn 2007 gan English Heritage, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban gyda chymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Ceir ynddo fwy na miliwn o ddelweddau ac mae’n cynnig darlun unigryw o’r newidiadau mawr yn nhirwedd gwledydd Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yn gyfochrog â’r arddangosfeydd cenedlaethol sy’n cael eu cynnal yng Nghaeredin, Hendon a Birmingham, bydd arddangosfa Cymru ym Maes Awyr Caerdydd yn cynnwys: cyflwyniad i Gasgliad Aerofilms wedi’i ategu gan gyfoeth o luniau, cyflwyniad eang ei gwmpas ar Caerdydd Ddoe a Heddiw, a ffotograffau eiconig o safleoedd Cymreig, gan gynnwys y cestyll Edwardaidd sydd bellach yn Safleoedd Treftadaeth Byd. Lle bu modd, mae golygon hanesyddol wedi cael eu cyplysu ag awyrluniau modern i ysgogi myfyrio ar ystyr ac effaith newid, lle a chof.


Aerofilms mewn digwyddiad hyrwyddo yn Arddangosfa’r Diwrnod Hedfan Cenedlaethol yn y 1930au
© English Heritage. Casgliad Aerofilms AFL03/Aerofilms/B5794.

Castell Ystumllwynarth, Abertawe, 1947 Codwyd Castell Ystumllwynarth tua 1107. Yn y llun hwn mae’r castell dan dyfiant ac wedi’i amgylchynu gan randiroedd a sefydlwyd, mae’n debyg, ar gyfer ymdrech y rhyfel. Mae gerddi’r rhandiroedd yn dal i gael eu trin ac mae’r castell wedi’i adfer.
© Hawlfraint y Goron, CBHC. WAW007664, NPRN: 94508

Canolfan Ddinesig Caerdydd, 1920 Canolfan Ddinesig hardd Caerdydd ym Mharc Cathays. Llun sy’n dangos Neuadd y Ddinas a’r Llysoedd Barn. Yr oedd yr Amgueddfa Genedlaethol wrthi’n cael ei chodi ond ni chafodd ei hagor tan 1927.
© Hawlfraint y Goron, CBHC. WPW001008, NPRN: 401617

Canolfan Ddinesig Caerdydd, 2006Canolfan Ddinesig drawiadol Caerdydd ym Mharc Cathays. Yng nghanol adeiladau’r brifysgol, yr Amgueddfa Genedlaethol, Neuadd y Ddinas, y llysoedd barn a swyddfeydd y llywodraeth mae Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.
© Hawlfraint y Goron, CBHC. AP_2006_1824
Parc yr Arfau, Caerdydd, 1947 Parc yr Arfau yng Nghaerdydd oedd Stadiwm Rygbi Cenedlaethol Cymru am bron i 30 mlynedd tan 1997, ond codwyd yr eisteddleoedd cyntaf ar safle’r maes rygbi hwn ym 1881.
© Hawlfraint y Goron, CBHC. WAW005393, NPRN: 3064 

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin