Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 4 June 2014

Bydd rhith amgueddfa newydd yn adrodd hanes capeli Cymru!






Anghydffurfio Digidol: Hanes Capeli Cymru
Mae’r Comisiwn Brenhinol ac Addoldai Cymru wedi derbyn grant o £60,000 yn ddiweddar i ddatblygu rhith amgueddfa sy’n adrodd hanes 300 mlynedd a mwy o Anghydffurfiaeth yng Nghymru!

Mae Croeso Cymru wedi darparu’r arian (o dan y Rhaglen Fframwaith Twristiaeth Ddigidol) fel rhan o brosiect mwy o faint sy’n derbyn cymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw. Nod y prosiect yw adfer a dehongli’r Hen Gapel, Llwynrhydowen, y capel Undodaidd Gradd II* rhestredig enwog y tyfodd clwstwr hynod o gapeli Undodaidd o’i gwmpas yn Nyffryn Teifi, Ceredigion. Y Smotyn Du oedd yr enw a roddodd rhai o wrthwynebwyr yr Undodiaid ar yr ardal hon.

Mae’r datblygiadau’n cynnwys creu rhith fynediad i gapeli sydd yng ngofal Addoldai Cymru drwy gyfrwng sganio laser, ffotograffiaeth gigapicsel a delweddu cyfrifiadurol. Hefyd fe ddarperir dadansoddiadau deongliadol a mapio GIS o’r 6400 a rhagor o gofnodion sydd gan y Comisiwn Brenhinol o gapeli Anghydffurfiol yng Nghymru, a hynny ar wefan ryngweithiol.

Bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith y bu’r Comisiwn Brenhinol  yn ei wneud ar hyd y blynyddoedd, ar y cyd ag Addoldai Cymru a Capel, i dynnu sylw at bwysigrwydd capeli fel math gwahanol ac eiconig o adeilad yng Nghymru sy’n gwneud cyfraniad o bwys at ein tirweddau trefol a gwledig. Mae adeiladau capel yn amrywio cryn dipyn o’r capeli gwerinol bach a syml, a gysylltir yn aml â chefn gwlad Cymru, i’r capeli mawreddog â ffasadau crand mewn trefi a dinasoedd a gynlluniwyd gan benseiri ac y cydnabyddir bellach eu bod yr un mor werthfawr ag adeiladau cyhoeddus mawr eraill y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Erbyn heddiw, capeli yw un o’r dosbarthiadau o adeiladau yng Nghymru sydd fwyaf mewn perygl. Mae cyfoeth o wybodaeth am gapeli unigol yng nghronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol, gan gynnwys enwad, dyddiadau, penseiri, iaith a chost ei adeiladu. Ategir y gronfa ddata gan raglen o arolygu a thynnu ffotograffau, ac mae archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cynyddu’n barhaus: mae bron 1300 o ddelweddau digidol ar gael ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol, yn (www.coflein.gov.uk).



Cafodd Bethania, Capel Cymraeg y Bedyddwyr, ei adeiladu’n wreiddiol ym 1832, ac yna ei ailadeiladu gan William Beddoe, y pensaer capeli enwog, ym 1908. NPRN: 13780.

Adeiladwyd Hen Dŷ Cwrdd, Capel yr Undodiaid, ym 1751. Cafodd ei ddisgrifio fel Mam Eglwys Undodiaeth yng Nghwm Cynon a dyma’r addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn y cwm. Ei weinidog amlycaf oedd y Parch. Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), awdur toreithiog, radical a garcharwyd, a chyfaill i Iolo Morganwg. NPRN: 8941
Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn cynnwys gweithio gyda chymunedau lleol i gynnal dyddiau hyfforddi ar wneud arolygon, dyddiau hanes cymunedol, a chyfres o ddarlithiau.

Rhai digwyddiadau sydd ar y gweill yw:

Dyddiau hanes cymunedol: dywedwch eich stori a dewch â’ch ffotograffau!

Galwch heibio a rhannwch eich atgofion â staff y Comisiwn Brenhinol, a darganfyddwch y wybodaeth sydd gennym am eich capel chi:

  • Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon: 11 Mehefin, 3-6pm yn nhafarndy Mount Pleasant, Trecynon, Aberdâr, CF44 8NG.
  • Hen Gapel, Llwynrhydowen: 25 Mehefin, 2-7pm  yng Nghapel Llwynrhydowen, Pont-siân, Llandysul, Ceredigion, SA44 4UB.
  • Peniel, Tremadog: 10 Gorffennaf, 2-7pm yng Nghapel Peniel, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9PS.
  • Bethania, Maesteg: 23 Gorffennaf, 2-7pm yng Nghapel Bethania, Bethania Street, Maesteg CF34 9EX.
Drysau Agored: eleni fe fydd y Comisiwn Brenhinol ac Addoldai Cymru yn cynnal tri digwyddiad partneriaeth Drysau Agored.

  • Hen Dŷ Cwrdd, Capel Undodaidd, Trecynon, Aberdâr, CF44 8NT, 6 Medi. Arddangosfa o luniadau pensaernïol o Gapeli Aberdâr wedi’u tynnu gan Mr William King a chyfle i weld y capel Anghydffurfiol hynaf yng Nghwm Cynon, 10am-12pm. Fe fydd sgwrs hefyd gan Stephen Hughes, arbenigwr y Comisiwn Brenhinol yn y maes hwn, ar gapeli fel pensaernïaeth genedlaethol Cymru.
  •  Yr Hen Gapel, Llwynrhydowen, Rhydowen, Llandysul, Ceredigion, SA44 4QB, Medi 13. Sgwrs gan Stephen Hughes, arbenigwr y Comisiwn Brenhinol, ar gapeli fel pensaernïaeth genedlaethol Cymru, a chôr lleol, 3-6pm; lluniaeth ar gael yn yr Alltyrodyn Arms, Rhydowen. 
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ, 20 Medi. Sgyrsiau 11am-1pm, teithiau tywys 1.30pm a 2pm. Dewch i ddarganfod mwy am bensaernïaeth capeli Cymru. Ar 20 Medi fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau i gynnal diwrnod hanes capeli. Ceir sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw, arddangosir deunydd archifol cyfoethog, a bydd cyfle i ddarganfod mwy am y gronfa ddata o fwy na 6000 o gapeli a’r prosiect partneriaeth cyffrous rhwng y Comisiwn Brenhinol ac Addoldai Cymru. 15 o bobl ar y mwyaf fydd yn gallu mynd ar y teithiau prynhawn i weld capeli hanesyddol Aberystwyth. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk , ffôn: 01970 621200. Bydd y teithiau’n dechrau am 1.30pm a 2pm o’r tu allan i’r English Baptist Chapel, Alfred Place, Aberystwyth.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin