Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 15 May 2014

Gŵyl Bensaernïaeth Cymru: Y Lle Creadigol, 15 Mai - 17 Mai





Melin lechi Pant-yr-ynn, NPRN: 28260. Dyma un o gannoedd o luniadau Falcon Hildred yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sydd bellach ar gael ar Coflein.
 
Yn ddiweddarach y wythnos hwn, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu at Ŵyl Bensaernïaeth Cymru 2014, cyd-fenter rhwng Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd arddangosfa’r Comisiwn Brenhinol ar waith celf Falcon Hildred, yr arlunydd tirweddau diwydiannol hynod ddawnus, yn dod i ben ar 28 Mai: Worktown: Lluniadau Falcon Hildred. Yn ogystal, bydd Richard Suggett, hanesydd pensaernïol, yn arwain taith drwy’r Ganolfan arobryn a’i chyffiniau am 2pm, ar Ddydd Sadwrn 17 Mai. I gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas, thema gyffredinol yr ŵyl eleni fydd Y Lle Creadigol, a bydd y pwyslais ar archwilio’r broses o greu. Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys digwyddiad lansio’r ŵyl: Noson o Syniadau; Awr Ysbrydoliaeth yr Ysgol Wanwyn: Gwneud Hanes yn Sain Ffagan, a Drama’r Prynhawn: Under Plywood, adolygiad amharchus o adfywiad ein “trefi hyll hyfryd” wedi’i gyflwyno gan Stiwdio Theatr Penseiri Cymru.

Bydd y rheiny sy’n dod i’r ŵyl hefyd yn cael cyfle i dreulio peth amser creadigol mewn replica o sied ysgrifennu eiconig Dylan Thomas a fydd yn gwneud ymweliad arbennig â’r ŵyl fel rhan o’i thaith drwy’r DU. Y tu mewn i’r sied, er mwyn anrhydeddu cariad Dylan at eiriau, cewch gyfle i ddyfeisio eich gair perffaith eich hun a’i weld yn cael ei gyhoeddi mewn Geiriadur i Ddylan.


I gael mwy o fanylion, cysylltwch â: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin