Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 2 April 2014

Y Daith Gerdded Fawr: Taith Dywys Fan Llia a Fan Dringarth, 3 Mai






Y dirwedd weundirol donnog, yn edrych ar draws dyffryn Llia uchaf i'r de-ddwyrain

Ar Ddydd Sadwrn, 3 Mai, bydd David Leighton, arbenigwr y Comisiwn Brenhinol ar archaeoleg yr uwchdiroedd, yn arwain taith dywys i Fan Llia a Fan Dringarth yn harddwch Bannau Brycheiniog. Ardal ddistaw ar gyfer cerdded yw hon, i ffwrdd o’r llwybrau poblogaidd, ac mae’r daith ar hyd gweundiroedd agored yn nodedig am yr henebion cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol y gellir eu gweld ar hyd y llwybr. Rhai o uchafbwyntiau’r daith fydd Maen Llia, carreg enfawr o dywodfaen sy’n un o’r meini hirion cynhanesyddol mwyaf yn Ne Cymru (NPRN: 84541), yr hen dollffordd a oedd, o bosibl, yn dilyn llwybr Sarn Helen (NPRN:407122), ac olion helaeth aneddiadau hanesyddol niferus yng Nghwm Nant y Gaseg.
Bydd y daith hon yn dilyn llwybr ar hyd llethrau gorllewinol Fan Llia i ben dyffryn Llia, ar draws Bryn Melyn a Chefn Perfedd i mewn i Gwm Dringarth a dyffrynnoedd llednant islaw Fan Dringarth, ac i lawr Cwm Dringarth uwchlaw Cronfa Ddŵr Ystradfellte, gan ddychwelyd i’r maes parcio ar draws rhan ddeheuol Cefn Perfedd, cyfanswm pellter o ryw 13.5 km (8.5 milltir).
Maen Llia o'r gogledd-orllewin


Bydd y cerddwyr yn cyfarfod am 10.30am yn yr ardal parcio a phicnic (SN92721646) ar y ffordd annosbarthedig rhwng Ystradfellte a Heolsenni. Gellir cyrchu’r ffordd hon o’r A4215 rhwng Pontsenni a Libanus.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Nicola Roberts, nicola.roberts@rcahmw.gov.uk neu ffoniwch 01970 621200. Bydd lleoedd i 30 o gerddwyr ar y mwyaf ar y daith gerdded hon.

Ceir disgrifiad llawnach o’r daith, ynghyd â gwybodaeth am deithiau a safleoedd eraill ar hyd y llwybr, yn TheWestern Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr gan David Leighton, y gellir ei brynu gan y Comisiwn Brenhinol.

Trefnwyd y daith hon fel rhan o raglen Taith Gerdded Fawr Ramblers Cymru a Cadw. I gael manylion teithiau eraill drwy ardaloedd hanesyddol yn ystod y gwanwyn, defnyddiwch Leolwr Digwyddiadau Cadw yn: http://cadw.wales.gov.uk/events/ 


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin