Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 30 April 2014

Coffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf





Cafodd Cofeb RyfelGenedlaethol Cymru ei chodi ym Mharc Cathays ym 1928. Y ddelwedd hon yw un o lawer o ffotograffau o gofebion rhyfel sydd bellach ar gael ar Coflein. .
Rhwng 2014 a 2018 fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn cymryd rhan yng nghanmlwyddiant coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Cafodd y rhyfel, a ddechreuodd ym 1914 ac a ddaeth i ben ym 1918, gryn ddylanwad ar lunio’r Gymru rydym ni’n ei hadnabod heddiw. Gan mlynedd wedyn, mae sefydliadau ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i wella ein dealltwriaeth o’r rhyfel a’r dinistr enbyd a achosodd, i ymchwilio i’w effeithiau, ac i ddarganfod ei waddol ar gyfer Cymru fodern.

Yn ystod y pedair blynedd nesaf, bydd y Comisiwn yn cyfrannu at goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru drwy:
  • Arolygu a chofnodi detholiad o safleoedd sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys gwneud arolygon o’r awyr o safleoedd megis y ffosydd ymarfer ym Mhenally, Sir Benfro, ac ardaloedd hyfforddi eraill.
  • Gwella gwybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Parhau i gyfoethogi ein gwybodaeth o longddrylliadau a llongau tanfor Almaenig a suddwyd oddi ar arfordir Cymru, a cholledion eraill ar y môr yn ystod yr ymladd.
  • Cynnal arddangosfeydd sy’n tynnu sylw at hanes, effeithiau a gwaddol y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
  • Cydweithio â Chasgliad y Werin Cymru i wella’r cynnwys sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Chyngor Archaeoleg Prydain ar y prosiect Home Front Legacy 1914-18. Nod y prosiect cymunedol unigryw hwn ar gyfer y DU gyfan yw cofnodi olion safleoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, a sicrhau bod eu hanes, treftadaeth a storïau’n cael eu cadw i’r cenedlaethau a ddaw (www.homefrontlegacy.org.uk).
  • Manteisio ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill i goffáu digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac i ymchwilio i’w effeithiau a’i waddol ar gyfer pobl Cymru.

Gallwch ddilyn ein gwaith ar y Rhyfel Byd Cyntaf drwy danysgrifio i’n blog, www.newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk/, a thrwy ein dilyn ar Twitter yn @RCAHMWales, a #walesremembers.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin