Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 27 March 2014

Gwerthiant Llyfrau Hanes a Threftadaeth yn y Comisiwn Brenhinol







Ar Ddydd Mercher, 9 Ebrill, fe fydd cyfle prin i brynu amrywiaeth eang o lyfrau, cylchgronau, mapiau ac arweinlyfrau’n ymwneud ag archaeoleg, pensaernïaeth a’r dreftadaeth adeiledig. Fe fydd mwy na 1000 o deitlau yn y gwerthiant hwn o stoc dros ben ac ail gopïau o lyfrgell y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth. Mae’r teitlau’n cynnwys set gyflawn o Archaeologia Cambrensis a chylchgronau archaeoleg safonol eraill, nifer helaeth o wahanlithiau, llyfrau ar gynhanes, y Rhufeinwyr ac archaeoleg ddiwydiannol, Hanesion Sirol Gwent a Morgannwg, cyfrolau hanesyddol ac archaeolegol eraill, a llawer mwy. Hefyd fe fydd detholiad o fapiau ordnans 6 modfedd o wahanol argraffiadau a chasgliad bach o fapiau 1:10,000 a Landranger. Bydd detholiad o gyhoeddiadau presennol y Comisiwn Brenhinol ar werth hefyd, ar ddisgownt o hyd at 30%. Meddai Penny Icke, y Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth: “Dyma gyfle gwych i brynu deunydd hanesyddol ac archaeolegol sy’n anodd ei gael ac allan o brint yn aml. Rydyn ni’n gobeithio gweld cymaint o bobl â phosib yn y gwerthiant”. Mae’r drysau ar agor rhwng 10am a 4pm. Croeso i bawb!

 
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Penny Icke, penny.icke@rcahmw.gov.uk neu ffoniwch 01970 621200


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin