Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 17 March 2014

Diwrnod Gyrfaoedd Treftadaeth yn y Comisiwn Brenhinol





Ar Ddydd Iau, 12 Mawrth, daeth myfyrwyr archaeoleg, hanes, daearyddiaeth a threftadaeth yn gyffredinol o bob rhan o Gymru i Ddiwrnod Gyrfaoedd Treftadaeth y Comisiwn Brenhinol a gynhaliwyd ar y cyd â’r prosiect Prydain Oddi Fry. Cafodd y myfyrwyr gyfle i wrando ar sgyrsiau gan archifydd y Comisiwn Brenhinol, Gareth Edwards, ac ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn, Dr Toby Driver – dwy alwedigaeth wahanol iawn yn y sector treftadaeth! Cafwyd cyflwyniadau ar amrywiaeth eang o yrfaoedd arbenigol ym maes treftadaeth: prosiect cymunedol Prydain Oddi Fry, arolygu technegol, archaeoleg forol, lleoliadau archaeoleg gymunedol Cyngor Archaeoleg Prydain, Casgliad y Werin Cymru, mapio GIS a chyhoeddiadau treftadaeth. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn gallu gweld adnoddau’r Cofnod Henebion Cenedlaethol a siarad â’n staff Gwasanaethau Darllenwyr. Fel y gwelwch o’r ffotograffau a’r sylwadau adborth, ysgogodd y diwrnod lawer o frwdfrydedd a diddordeb!

“Wedi dysgu llawer iawn heddiw a chael dysgu mwy am ddatblygiad lle dwi yn byw.” (Learned a lot today and have learned more about the development of where I live.)

“Diwrnod diddorol, wedi gwneud i mi feddwl am y swyddi i mi gael yn y dyfodol.”
(Interesting day, made me think about the jobs available for me in the future.)

“Very informative – thank you. Careers advice useful. Hopefully I will progress in this Heritage Sector.”

“I haven’t used the Royal Commission to its full advantage. I will recommend their facilities to other Aberystwyth students.”

“Britain from Above website helped me with an assignment. Very good day, informative and useful.”

“Very informative, particularly on the specifics of Lidar. Thank you.”
“Very informative & engaging. Thank you for such a great opportunity. Talks v. good.”
Dod â’r gorffennol yn fyw â sbectol 3D.
Egluro hyd a lled y prosiect Prydain Oddi Fry.
Brwdfrydedd dros archaeoleg forol.
Egluro arolygu digidol i gynulleidfa frwd.
Trafod cyhoeddiadau treftadaeth llwyddiannus y Comisiwn Brenhinol.
Myfyrwyr wedi ymgolli mewn awyrluniau hanesyddol.
Sylwadau gwerthfawrogol ar y mur graffiti ar ddiwedd y dydd!


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin