Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 18 February 2014

Diwrnod Treftadaeth Cymunedol - Y Borth ac Ynys-las






Yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni fe fydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dwyn ynghyd sawl blwyddyn o waith ar y Borth ac Ynys-las mewn prosiect archaeoleg gymunedol newydd wedi’i arwain gan yr archaeolegwyr cymunedol Kimberly Briscoe a Sarahjayne Clements.


Golygfa o’r gorffennol: awyrlun o bentref y Borth ym 1949, wedi’i dynnu gan Aerofilms. Mae’r ddelwedd bellach yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth. NPRN 33037
Bydd y gwaith ar y Borth yn canolbwyntio ar ddatblygiad yr anheddiad, o’r dirwedd gynhanesyddol o ffendir a choedwig, sy’n dod i’r golwg o hyd ar y traeth, i bentref pysgota bach ac yna, yn ystod oes Victoria, i gyrchfan gwyliau glan môr llewyrchus.

Meddai Sarahjayne, “Gyda dyfodiad yr orsaf reilffordd ym 1863, daeth y Borth yn gyrchfan glan môr poblogaidd. Cafodd Gwesty’r Grand a Gwesty’r Cambrian, ger yr orsaf, eu codi yn ystod y cyfnod yma, er bod Gwesty’r Cambrian wedi’i ddymchwel erbyn hyn. Cafodd Eglwys Sant Mathew ei chodi ym 1879 yn sgil adeiladu’r rheilffordd a’r buddsoddiad yn y diwydiant ymwelwyr. Mae pensaernïaeth y Borth yn ddiddorol iawn gan fod sawl gwahanol arddull yma.”
Gwesty’r Cambrian, Y Borth. NPRN 35021
Yn Ynys-las bydd y prosiect yn edrych yn arbennig ar fethiant datblygiad arfaethedig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i greu cyrchfan gwyliau moethus yma ac ar y maes rocedi milwrol o’r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd yng nghanol y twyni tywod.

Dywedodd Kimberly, “Mae twyni Ynys-las yn cuddio llu o gyfrinachau. Bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, mae hanes llai heddychlon o lawer i’w ddarganfod yn y twyni fel y tystia olion megis y lloriau, amddiffynfeydd ac adeiladau concrit a oedd ar un adeg yn rhan o faes profi rocedi arloesol yn yr Ail Ryfel Byd. Ac mae llawer i’w ddatgelu o hyd.”

Sgwner a ddefnyddid i gludo llechi, wedi’i llongddryllio ar draeth Ynys-las. NPRN 407989
I gychwyn y prosiect fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal Diwrnod Treftadaeth Cymunedol yn ystod hanner tymor, ar Ddydd Llun 24 Chwefror am 3pm-7pm yn Neuadd Goffa’r Borth. A oes gennych unrhyw atgofion am y Borth ac Ynys-las? Dewch heibio a dywedwch ragor wrthym am eich treftadaeth!


Facebook: The Coastal Heritage of Borth and Ynyslas 


Coflein - Darganfod ein gorffennol ar-lein
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. 


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin