Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 10 October 2013

Dyfodol Ein Gorffennol





Archaeolegwyr brwd yn nesáu at gopa Bryngaer Pen Dinas ar un o deithiau tywys y Comisiwn Brenhinol.

Ar 12 Gorffennaf 2013, rhyddhaodd John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ddatganiad am ddyfodol y gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn Brenhinol. Nododd:

“Yr wyf yn credu bod uno yn cynnig y cyfle i ddarparu gwasanaeth amgylchedd hanesyddol cenedlaethol mwy effeithiol a chydlynol sy'n gallu darparu arweinyddiaeth gydweithredol ar gyfer sector yr amgylchedd hanesyddol, gan sicrhau cynnydd ar wybodaeth, cadwraeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Yr wyf felly'n bwriadu uno'r Comisiwn Brenhinol gyda Cadw, ond yr wyf wedi gofyn am waith pellach mewn perthynas â manteision ac anfanteision cymharol eu huno y tu fewn i Lywodraeth Cymru a'r tu allan iddi.”

Bydd yn rhaid pasio Mesur cyn gallu gweithredu unrhyw newid terfynol i statws y Comisiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Mesur Treftadaeth, a allai gynnwys darpariaeth o’r fath, yn 2015. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi ei gynigion ar gyfer y Mesur a datblygiadau cyfochrog ac wedi gofyn am sylwadau arnynt, i’w derbyn erbyn 11 Hydref 2013. Bydd wedyn yn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y Comisiwn, ar sail y gwaith pellach y mae ef wedi gofyn amdano a’r ymatebion i’r ddogfen ymgynghori.

Gellir gweld yr ymgynghoriad, ‘Dyfodol ein gorffennol’ ar wefan Llywodraeth Cymru a’i lwytho i lawr oddi yno. Ymgynghoriad cyhoeddus yw hwn ac mae croeso i unrhyw un ymateb. Pa un a ydych chi’n gweithio ym maes treftadaeth, yn wirfoddolwr trydydd sector, neu’n unigolyn sydd â diddordeb yng ngorffennol Cymru, mae eich barn ar y cynigion yn yr ymgynghoriad yn bwysig a bydd yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau’n gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Hydref 2013. Gellir gweld ymateb ffurfiol y Comisiwn ei hun i’r ymgynghoriad ar-lein yma. Gellir hefyd ddarllen crynodeb o’r materion allweddol yn ymwneud â dyfodol y Comisiwn yma. Mae’r ddogfen ymgynghori a’r ffurflen ymateb yn egluro’n llawn sut i ymateb.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin