Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 18 September 2013

Drysau Agored yn y Comisiwn Brenhinol, Medi 2013





Eleni mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda’i bartneriaid i gynnal tri digwyddiad Drysau Agored. Cynhelir y rhain bob blwyddyn yn ystod mis Medi, pan gaiff cannoedd o safleoedd ac adeiladau eu hagor (am ddim) i’r cyhoedd. Bydd llawer ohonynt hefyd yn cynnig teithiau tywys, sgyrsiau ac arddangosfeydd.


Neuadd y Dref, Dinbych (nprn: 23423) - Teithiau tywys drwy dref hanesyddol Dinbych ar Ddydd Sadwrn, 21 Medi.
Ar Ddydd Sadwrn, 21 Medi, bydd Ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu wrth baratoi cyhoeddiad nesaf y Comisiwn Brenhinol ar dref hanesyddol Dinbych. Byddant yn arwain dwy daith dywys drwy’r dref, gan dynnu sylw at amrywiaeth o adeiladau domestig, crefyddol, masnachol a chyhoeddus. Bydd pob taith yn para am 1½ awr a gofynnir i’r rheiny sy’n dymuno cymryd rhan gyfarfod y tu allan i Lyfrgell y Dref, Dinbych am 11am a 2pm. Mae nifer y lleoedd wedi’i gyfyngu i 15 o bobl a gallwch archebu eich lle yn Llyfrgell y Dref. Cysylltwch â’r Llyfrgell am ragor o fanylion.


Sgyrsiau ac arddangosfa’r Comisiwn Brenhinol yn nigwyddiad Drysau Agored Caer Belan (nprn: 26459) ar Ddydd Sul, 22 Medi.
Y diwrnod wedyn, ar Ddydd Sul, 22 Medi, bydd hanesydd milwrol y Comisiwn Brenhinol, Medwyn Parry, yn rhoi dwy sgwrs yn ystod y Diwrnod Agored ar safle’r amddiffynfeydd arfordirol o’r ddeunawfed ganrif yng Nghaer Belan, Llanwnda, Caernarfon. Y sgyrsiau fydd ‘Worktown: Lluniadau Falcon Hildred’ (11.30am) a ‘Belan a Thu Hwnt: Olion Milwrol yng Nghymru’ (1.15pm). Bydd arddangosfa’r Comisiwn Brenhinol o arlunwaith Falcon Hildred yn cael ei dangos hefyd.


Yn olaf, ar Ddydd Iau, 26 Medi, bydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau i groesawu’r cyhoedd i’w swyddfeydd. Yn ystod y dydd, fe fydd disgyblion o ysgolion uwchradd lleol yn dysgu am y prosiect Prydain Oddi Fry (prosiect ar y cyd rhwng partneriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban). Fe fydd pwyslais ar y sgiliau digidol sydd eu hangen heddiw ar gyfer gyrfa yn y sector treftadaeth ac mewn addysg yn gyffredinol. Mae croeso cynnes i’r cyhoedd ddod o 3.30pm ymlaen i weld deunydd archifol yn ein Llyfrgell a chyflwyniadau ac i sgwrsio â’n staff. Fe fydd sgwrs gan Gareth Edwards am 4pm ar Casgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru : Collections of the National Monuments Record of Wales.

I  gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Nicola Roberts: ffôn 01970 621248, e-bost nicola.roberts@rcahmw.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin