Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 28 August 2013

Olrhain Newid ym Mae Caerdydd: Prosiect Cymunedol Prydain Oddi Fry, Butetown





Mae Bae Caerdydd wedi gweld llawer o newid ers ymweliad cyntaf Aerofilms 90 o flynyddoedd yn ôl. Ar un adeg roedd yn gartref i ddociau prysur, ond bellach mae’r bae wedi’i ailddatblygu’n dirwedd hollol wahanol sydd o bwys diwylliannol modern: ceir y Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) ar lan y dŵr, yn ogystal â Chanolfan y Mileniwm, sy’n ganolbwynt nodedig i’r celfyddydau. Wrth edrych ar ddelweddau o Fae Caerdydd o gasgliad Prydain Oddi Fry, daw maint ac arwyddocâd y newid hwn i’r amlwg.

Golwg cyffredinol o Gaerdydd yn dangos y dociau

Fel rhan o’i Raglen o Weithgareddau, mae Prydain Oddi Fry yn defnyddio lluniau Aerofilms o Fae Caerdydd a’r cyffiniau yn fan cychwyn ar gyfer prosiect yn ardal Butetown sy’n pontio’r cenedlaethau. Mae’r prosiect yn cynnwys preswylwyr Red Sea House (menter Cymdeithas Tai Taf i ddarparu cartref ar gyfer morwyr Somalïaidd sydd wedi ymddeol) a’r grŵp Cymdeithas Ieuenctid Somalïaidd (SoYA).

Nod y prosiect yn y pen draw yw cynhyrchu ffilm fer sy’n dangos bywyd pob dydd yn yr ardal o safbwynt y gwahanol genedlaethau. Bydd y ffilm yn cynnwys atgofion yr hynafgwyr o fyw a gweithio yn Butetown, a phrofiadau mwy diweddar y plant o’r newid yn eu cymdogaethau.
Golwg o Gaerdydd yn dangos y dociau a Butetown

Yn hytrach na dim ond holi’r plant, maen nhw’n cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses o wneud y ffilm. Mae’r cwmni ffilm Big Mouse Productions yn darparu arbenigedd, gan arwain sesiynau sy’n canolbwyntio ar hanfodion recordio proffesiynol. Mae’r cwmni hefyd yn dysgu’r plant sut i fod yn holwyr medrus a gofyn cwestiynau a fydd yn ysgogi atebion diddorol.

Mae plant SoYA wedi cael llawer o hwyl yn ymarfer eu sgiliau newydd ar ei gilydd. Bu rhai’n darganfod beth mae eu ffrindiau eisiau bod ar ôl tyfu i fyny (meddygon, gan amlaf), tra bu eraill yn siarad am y gwledydd lle maen nhw wedi byw (gan gynnwys UDA a’r Iseldiroedd). Nododd un plentyn fod cymaint yn fwy o balmentydd yng Nghymru nag yn UDA! Mae’r sesiynau hyn yn helpu’r plant i feithrin amrywiaeth o sgiliau y gallan nhw eu defnyddio yn y dyfodol wrth ymgymryd â phrosiectau eraill.
Golwg cyffredinol o ddociau Caerdydd

Pan oedd y ddinas yn ei hanterth fel grym diwydiannol, Bae Caerdydd oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru, a byddai llu o longau, morwyr a gweithwyr doc yn llifo drwyddo. Mae treftadaeth ddiwydiannol Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn rhan allweddol o hanes y wlad, ac mae gwaith yn cael ei wneud gan gyrff treftadaeth i wneud cofnod manwl o fywydau’r bobl a oedd ynghlwm wrth weithgareddau pob dydd y bae.

Golwg o ddoc Bute East, Caerdydd a’r ardal o’i gwmpas

Sut bynnag, nid yw cymaint o waith wedi’i wneud ar brofiadau’r morwyr o wledydd tramor, ac ar fywydau’r rheiny a ymgartrefodd yng Nghaerdydd, a dyma’r bwlch mae prosiect Butetown Prydain Oddi Fry yn ceisio ei lenwi. Adnodd unigryw ac amhrisiadwy yw casgliad Aerofilms y gellir ei ddefnyddio i ysgogi atgofion am y gorffennol. Drwy annog y genhedlaeth iau i ddarganfod hanes y lle maen nhw’n byw ynddo a chofnodi profiadau pobl hŷn eu cymuned, a thrwy ofyn iddynt rannu eu profiadau eu hunain o newid, gobeithir y bydd y prosiect yn olrhain microhanes o fywyd ym Mae Caerdydd, fel y’i gwelir drwy lygaid trigolion Butetown.

Golwg o ddociau Caerdydd

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin