Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 25 June 2013

Y Comisiwn yn Cydweithio i Gyfnewid Gwybodaeth





Dr Alan Chamberlain, Uwch Gymrawd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Nottingham
O fis Gorffennaf, bydd Dr Alan Chamberlain, Uwch Gymrawd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Nottingham, yn gweithio gyda thîm Data a Thechnoleg y Comisiwn Brenhinol ar ôl i’r Brifysgol ddyfarnu grant o dan y prosiect Cyfnewid Gwybodaeth yn yr Economi Creadigol – Cymrodoriaeth Archifau, Cynulleidfaoedd ac Asedau.

Yn rhinwedd ei swydd fel Ymchwilydd Ymweld, bydd Dr Chamberlain yn gweithio ochr yn ochr â Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-Lein y Comisiwn, i nodi cyfleoedd i wneud adnoddau Coflein a Chasgliad y Werin Cymru yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

Mae Tom a Dr Chamberlain wedi cydweithio yn y gorffennol ar ddatblygu Placebooks.org, llwyfan cyhoeddi digidol prototeip wedi’i seilio ar y we a’r ffôn clyfar sy’n galluogi defnyddwyr i gynhyrchu tywyslyfrau digidol pwrpasol gan ddefnyddio data o Gasgliad y Werin Cymru a gwefannau eraill.

Meddai Dr Chamberlain, “Mae’n fraint cael cynnig cyfle i weithio gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gwneud gwaith arloesol a hynod ddiddorol. Mae technoleg ddigidol a threftadaeth yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn niwylliant ac economi Cymru. Sefydliadau fel y Comisiwn Brenhinol sy’n datblygu ac yn cyflwyno cyfryngau newydd sy’n caniatáu i ni edrych yn ôl ar ein hanes a darganfod ffyrdd newydd o ryngweithio ag e.”

Gwybodaeth bellach: tom.pert@rcahmw.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin