Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 5 June 2013

Lleoliadau Hyfforddiant Archaeoleg Cymunedol (2)





Dyddiad Ago: 31 Mai 2013
Dyddiad Cau: 30 Mehefin 2013
Lleoliad: Aberystwyth

Disgrifiad o'r Swydd:
Cyngor Archaeoleg Prydain
Lleoliadau Hyfforddiant Archaeoleg Cymunedol

Ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa mewn archaeoleg?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio’n uniongyrchol ag amrywiaeth o gymunedau a phobl ifanc yn enwedig?

Mae Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA) yn cynnig lleoliadau bwrsari â thâl am ddeuddeg mis gyda 12 o sefydliadau ledled Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae Lleoliadau Bwrsari Archaeoleg Cymunedol (CATPs) wedi eu hanelu’n benodol at ddarparu hyfforddiant i unigolion sydd eisoes â gwybodaeth ymarferol dda o ddamcaniaeth a thechnegau archaeolegol, sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau i’w defnyddio yn eu gyrfa yn y dyfodol, er mwyn gwella’r berthynas rhwng y proffesiwn archeolegol ac amrywiaeth eang o gymunedau. Yn benodol, bydd y rownd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu diddordeb pobl ifanc yn y maes.

Mae’r bwrsarïau’n cael eu cyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) drwy ei rhaglen Sgiliau ar gyfer y dyfodol, gyda chefnogaeth gan Cadw, English Heritage a Historic Scotland. Bydd lleoliadau’n dechrau ym mis Medi 2013, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael bwrsari cyflogedig o tua £16,950 (gweler y disgrifiadau swydd unigol am ragor o fanylion).

Y ddau sefydliad o Gymru sy’n cynnal y cynllun yw:
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (Y Trallwng)
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (Aberystwyth)

Ewch i’n gwefan i gael manylion llawn y swyddi, lle gallwch lwytho i lawr y pecynnau cais ar gyfer pob swydd (sy’n cynnwys dyddiadau’r cyfweliadau) http://new.archaeologyuk.org/http://new.archaeologyuk.org/community-archaeology-training-placements-youth-focused

Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau am leoliadau: Dydd Sul 30 Mehefin 2013

Graddfa Cyflog: TSB
Cyflog: £16,950 per annum
Hyd y cytundeb: 12 month
Cysylltwch â: Toby Driver

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin