Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 11 June 2013

Helpwch Ni I Greu Sgwadron Gwlanog – Rydyn Ni Angen Eich Sgiliau Gwau I Esgyn I’r Awyr!





“Edafeddfomio” dros Bont Llangynidr ger Crucywel

I ddathlu Diwrnod Byd-Eang Gwau’n Gyhoeddus (8-16 Mehefin 2013), mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn galw am gymorth ‘edafeddhedwyr’ gwirfoddol i greu sgwadron o awyrennau wedi’u gwau i feddiannu ardaloedd trefol a gwledig.

Gofynnir i wirfoddolwyr ddangos eu sgiliau gwau a darganfod mwy am hanes eu hardaloedd drwy ‘edafeddfomio’ lleoliadau gerllaw sydd i’w cael hefyd mewn ffotograffau Aerofilms.

Meddai Natasha Scullion, Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry: ‘Rydyn ni’n annog pobl sydd wrth eu bodd yn gwau i ymuno â ni drwy ddirwyn eu gwlân ac esgyn i’r awyr gyda Phrydain Oddi Fry!’

Ewch i www.britainfromabove.org.uk a gadewch i gasgliad unigryw Prydain Oddi Fry o awyrluniau gwych a dynnwyd rhwng 1919 a 1953 fod yn ysbrydoliaeth i chi. Mae’r delweddau’n darparu cofnod ffotograffig heb ei ail o Brydain o’r awyr yn yr ugeinfed ganrif. Maen nhw’n dangos y newidiadau enfawr sydd wedi digwydd ym meysydd tai, hamdden, diwydiant, cludiant ac amaeth ac effeithiau dau ryfel byd ar y tir. Gallwch gyrchu mwy na 35,000 o ddelweddau am ddim.

Gallwch lwytho’r cyfarwyddiadau a’r patrwm i lawr o www.britainfromabove.org.uk a thrwy borthiant Twitter Prydain Oddi Fry English Heritage @AboveBritain.

Mae cymryd rhan yn hawdd.
Cam 1. Ewch ati i wau eich awyren. Defnyddiwch ein patrwm ni neu eich patrwm eich hun. Rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg ...
Cam 2. Ewch i www.britainfromabove.org.uk  i ddod o hyd i ddelweddau o’ch ardal chi a dewiswch hoff leoliad. Os dymunwch, gadewch eich campwaith i bobl eraill ei fwynhau.
Cam 3. Llwythwch eich llun i fyny i’n grŵp GWAU dros Brydain Oddi Fry yn www.britainfromabove.org.uk/groups/knit-britain-above i ymuno â rhengoedd eich cyd ‘edafeddhedwyr’.


Claude Graham-White yn hedfan awyren Farman yn Bournemouth, 1910

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin