Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 6 June 2013

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales





Cefnogwyr yn ffarwelio â Pharc yr Arfau, Caerdydd, cyn iddo gael ei ddymchwel ym 1997.
(DI2006_1049, nprn 3064) © Hawlfraint y Goron: CBHC

“Mae pob pafiliwn neu dŷ clwb wedi gorfod ymladd i gael ei adeiladu ac mae pob clwb wedi wynebu ei frwydr ei hun i oroesi. Dyma pam ein bod ni’n coleddu ein meysydd chwarae ac yn eu hamddiffyn yn ffyrnig.” Eddie Butler

“Gallai testun Dr Leeworthy fod wedi sefyll ar ei ben hun, heb ei addurno, ond mae’n dod i ni mewn cyfrol sy’n llawn lluniau trawiadol. Mae’n cyflwyno i ni enghraifft glasurol o sut y gall darluniau fod cyn bwysiced â thestun a sut y mae’r ddau yn gweithio gyda’i gilydd i gloi dadleuon ac i ddwysáu ein dealltwriaeth o thema.” (Peter Stead, Morgannwg, cyfrol 56)


Yn yr unfed ganrif ar hugain mae llawer ohonom yn cymryd parciau, meysydd chwarae a chanolfannau hamdden yn ganiataol. Ond y tu ôl i bob un mae hanes o frwydro – yn erbyn anawsterau mawr yn aml – a dymuniad pobl o bob cefndir i greu rhywbeth gwell i’r dyfodol. Mae Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales yn olrhain yr hanes ac yn edrych ar effaith chwaraeon ar dirwedd Cymru fodern.

Mae’n ystyried yr amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, o’r parc cyhoeddus cynharaf a agorwyd ym 1858 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, i bwll nofio Llwyn Onn yn Wrecsam a agorwyd ym 1854, i’r tiroedd lles niferus a sefydlwyd ar draws Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Rhoddir sylw i leoliadau chwaraeon llai hysbys, megis y llawr troed-rolio Americanaidd yng Nghaerdydd a adeiladwyd ym 1908, stadiwm rasio milgwn Welsh White City o 1928 a’r Stadiwm Rasio Beiciau Modur byrhoedlog yn Heol Penarth yn y 1950au.

Mae gweithgareddau llai adnabyddus megis y rasys Powderhall, pêl-wthio, pêl-fas a rasys dringo mynyddoedd mewn ceir i gyd yn cael sylw, ochr yn ochr â’r campau mawr – rygbi, pêl-droed a chriced – sy’n tra-arglwyddiaethu heddiw a datblygiad caeau chwarae antur a chanolfannau hamdden.

Trafodir hefyd dreftadaeth chwaraeon Cymru yn fwy cyffredinol, mewn pennod ar rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol sy’n edrych ar yr isadeiledd a grëwyd wrth i feicio, cerdded y mynyddoedd a hosteli ieuenctid ddod yn fwy poblogaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Ceir yn Fields of Play 172 o ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych, gan gynnwys llawer o ddelweddau sydd heb eu gweld o’r blaen o archif Aerofilms yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r gyfrol yn dadansoddi ac yn adrodd hanes yr agwedd hynod bwysig hon ar dreftadaeth adeiledig Cymru a bydd yn siŵr o gynyddu ein gwerthfawrogiad o leoedd chwaraeon yn y dirwedd.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
Pris y llyfr yw £14.95 ac mae ar gael gan y Comisiwn Brenhinol ac ym mhob siop lyfrau dda.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin