Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 19 June 2013

Archaeolegwyr Ifanc Aberystwyth yn ail-greu ffotograff o gloddiad yn y 1930au: Archaeolegwyr Ifanc Aberystwyth yn camu’n ôl mewn amser





Cloddwyr o Glwb yr Archaeolegwyr Ifanc ym mryngaer Pen Dinas, Aberystwyth yn 2013 (tynnwyd y llun gan  Paul Harries).
Yn ddiweddar fe gamodd Archaeolegwyr Ifanc Aberystwyth yn ôl mewn amser, bron 80 o flynyddoedd, i ail-greu golygfa hanesyddol o gloddwyr yn gweithio ar fryngaer Pen Dinas uwchben y dref, yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd. Dyma’r tro cyntaf i bobl sefyll yn esgidiau archaeolegwyr y 1930au, gan wisgo dillad y cyfnod a dal offer addas, i ail-greu’r ffotograff o’r cloddio ar safle’r fryngaer a dynnwyd yn wreiddiol ar ddiwrnod o haf ym 1934.

Fel rhan o daith gerdded wedi’i harwain gan Dr Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth, a drefnwyd gan John Ibbotson a Paul Harries ar ran y gangen leol o’r Archaeolegwyr Ifanc, penderfynwyd bod yn rhaid sefyll yn esgidiau’r archaeolegwyr arloesol. Gan ddilyn cyngor Anna Evans o Amgueddfa Ceredigion, cafwyd offer a dillad o gasgliad trin a thrafod gwrthrychau yr amgueddfa er mwyn creu darlun dilys a rhoi blas i’r Archaeolegwyr Ifanc ar fywyd gweithwyr lleol yn y 1930au. Roedd gwisgo crysau, trowsus dal dŵr a chapiau brethyn yn y tywydd poeth, a chario rhawiau coes hir, yn dipyn o her. Cwblhawyd y darlun gan Sam Williams, un o’r Archaeolegwyr Ifanc, a gymerodd le’r Athro Forde a oedd yn gwisgo gwasgod a thei a sbectol gron ac yn gafael mewn het Banamâ.

Mae’r ffotograff gwreiddiol i’w gael yn archif cloddiad Pen Dinas a ddelir gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac mae’n dangos yr Athro Forde yn ymweld â’r cloddwyr wrth iddynt gloddio yn un o brif byrth y fryngaer o Oes yr Haearn. Doedd hi ddim yn rhy anodd darganfod ble buont yn sefyll, ond roedd yr olygfa yn y cefndir o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Llanbadarn Fawr wedi newid cryn dipyn ar ôl wyth degawd.

Cloddwyr ym mryngaer Pen Dinas, Aberystwyth ym 1934, NPRN:92236 (Hawlfraint y Goron CBHC)

Ychwanegodd Toby Driver: ‘Roedd ail-greu’r olygfa yma o’r 1930au, gan ddefnyddio dillad ac offer dilys, yn her go iawn i bawb a gymerodd ran, ond diolch i gymorth Amgueddfa Ceredigion, ac amynedd y plant, fe gawson ni i gyd ein syfrdanu gan y canlyniad. Roedd yn union fel camu’n ôl mewn amser!’

Dylai unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r Archaeolegwyr Ifanc gysylltu â John Ibbotson drwy Amgueddfa Ceredigion. Gallwch chwilio am y ffotograffau gwreiddiol o’r cloddiad ym Mhen Dinas, Aberystwyth yng nghronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol www.coflein.gov.uk.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin