Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 16 May 2013

Dysgu Am Dreftadaeth Uwchdirol Gwynedd





Cynrychiolwyr yn cerdded i fyny’r inclein gwych yn chwarel lechi Gorseddau i archwilio rhannau uchaf y gwaith.

Roedd y digwyddiad Archaeoleg yr Ucheldiroedd a gynhaliwyd ar y 10fed a’r 11eg o Fai yn Eryri yn llwyddiant ysgubol i bawb a gymerodd ran. Cafodd ei drefnu ar y cyd gan y Comisiwn Brenhinol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, ac roedd yn cynnwys ysgol undydd ar Ddydd Gwener y 10fed o Fai ym Mhlas Tan y Bwlch a thaith dywys i weld tirwedd chwarel lechi Gorseddau ar Ddydd Sadwrn.

Ar Ddydd Gwener ymunodd mwy na 60 o gynrychiolwyr â staff y Comisiwn Brenhinol ym Mhlas Tan y Bwlch ar gyfer ysgol undydd a agorwyd gan y Cynghorydd Caerwyn Roberts OBE, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Yn dilyn hyn, cafwyd anerchiad gan Dr David Gwyn. Yn y bore wedyn, cyflwynwyd adroddiadau ar yr arolygon diweddaraf a oedd wedi cael eu cwblhau fel rhan o Fenter Archaeoleg yr Uwchdiroedd yng ngogledd, canolbarth a de Cymru, ac yn y prynhawn bu cyfres o sgyrsiau gan arbenigwyr o Gymru, Lloegr a’r Alban ar wahanol agweddau ar archaeoleg, hanes, palaeoamgylchedd a rheoli treftadaeth uwchdirol gogledd-orllewin Cymru.

Y diwrnod canlynol, aeth dau fws mini o gynrychiolwyr gydag archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol i weld y dirwedd chwarelydda yng nghyffiniau chwarel Gorseddau uwchben Porthmadog, yng nghwmni arbenigol Dr David Gwyn o’r Govannon Consultancy a fu’n arwain y daith. Er gwaethaf ychydig o gawodydd o law roedd digon o heulwen a mwynhaodd pawb ddiwrnod bendigedig yn dysgu am hanes chwarel Gorseddau, gan gynnwys bywydau’r chwarelwyr, y rhwydweithiau cludiant a hynt a helynt y busnes, am bentref diwydiannol gwag Treforys gerllaw, ac am y felin lechi unigryw yn Ynysypandy.

David Gwyn yn egluro archaeoleg a hanes melin lechi Ynysypandy.
Y mur corbelog enfawr a oedd yn amddiffyn trac y dramffordd lechi yng Ngorseddau rhag y tomennydd llechi uwchben.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales




Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin