Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 14 March 2013

Peter Smith, hanesydd pensaernïol, 1926–2013






Bu farw Peter Smith, hanesydd pensaernïol, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1973–1991, ar 12 Mawrth 2013 mewn cartref nyrsio yn Nyfnaint.  Mae’n gadael gweddw, Joyce, a thri phlentyn.
 
Bu farw Peter Smith FSA, hanesydd pensaernïol ac awdur y clasur, Houses of the Welsh Countryside, ar 12 Mawrth 2013 mewn cartref nyrsio.  Cafodd ei eni ym 1926 yn Winlaton-on-Tyne, Swydd Durham, yn fab i arolygydd ysgolion (A.E.M.), ac wrth i’r teulu symud o le i le daeth i werthfawrogi natur amrywiol gwledydd Prydain yn gynnar yn ei oes ond ni chollodd byth acen ei blentyndod.

Ar ôl mynd i Rydychen, lle y bu’n astudio Hanes Modern, cafodd yrfa fer fel Pennaeth Cynorthwyol yn y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn Whitehall.Ond oherwydd ei ddiddordeb byw mewn adeiladau hanesyddol, penderfynodd astudio ar gyfer arholiad canolradd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (R.I.B.A.). Ym 1949 fe’i penodwyd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, un o nifer bach o Gomisiynau Brenhinol sefydlog, a dechreuodd ei astudiaeth broffesiynol faith o hynafiaethau Cymru.  Yng Nghymru, hefyd, y byddai’n cael gwraig, Joyce, yn magu teulu, ac yn dysgu iaith newydd.

Bryd hynny byddai holl staff y Comisiwn – yr Ysgrifennydd a’r pedwar ymchwilydd – yn gweithio ar henebion o bob cyfnod.  Ond, dan ddylanwad Cyril Fox, magodd Peter Smith frwdfrydedd dros ddehongli ffermdai hanesyddol, a dengys ei gyfraniad i’r Caernarvonshire Inventory ei fod yn arloeswr mewn maes newydd – pensaernïaeth werinol.  Byddai Peter yn dod yn un o aelodau cynnar y Grŵp Pensaernïaeth Werinol a bu’n Llywydd arno.

Ar ôl cwblhau’r astudiaeth o Sir Gaernarfon, bu Peter yn ymchwilio i dai cerrig Morgannwg ac yn cofnodi tai yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru hefyd.  Daeth cyfle i wneud astudiaeth gyffredinol o bensaernïaeth Cymru gyda throsglwyddo’r Cofnod Adeiladau Cenedlaethol ym 1963, pan gafodd Peter ei symud o’r dasg o lunio rhestrau i waith cofnodi argyfwng ar adeiladau dan fygythiad ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys tai wedi’u hadeiladu o goed.

Cafodd syniadau cychwynnol Peter Smith ar ddatblygiad pensaernïaeth werinol eu cyhoeddi ym 1967 mewn pennod ar ‘Rural Housing in Wales’ yn The Agrarian History of England and Wales, 1500-1640, ac yna fe’u datblygwyd yn astudiaeth gyflawn ryfeddol a oedd yn cynnwys mapiau dosbarthiad a lluniadau ail-greu gwreiddiol.  Cyhoeddwyd Houses of the Welsh Countryside gan y Comisiwn Brenhinol ym 1975, a dyma ei gyfrol thematig gyntaf.  Dyfarnwyd Medaliwn Alice Davis Hitchcock i’r llyfr gan Gymdeithas yr Haneswyr Pensaernïol, a derbyniodd lu o adolygiadau canmoliaethus a oedd yn cydnabod ei wreiddioldeb.

Cafodd Peter Smith ei benodi’n Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ym 1973 (roedd wrth ei fodd gyda’r teitl hen ffasiwn Ysgrifennydd, a barai ddryswch i rai) ac yn dilyn hyn cafodd llif cyson o gyfrolau Inventory eu cyhoeddi ynghyd â sawl llyfr thematig, yr oeddynt oll yn nodedig am eu hysgolheictod a hefyd am eu darluniau eglurhaol o ansawdd gwych, gan gynnwys lluniadau rhandoredig uchel eu clod.

Yn ystod ei ymddeoliad, daliodd Peter Smith ati i ymchwilio ac ysgrifennu, gan fyfyrio ar gyd-destun Ewropeaidd pensaernïaeth werinol Cymru a Lloegr.  Yn 2010, fe gyflwynwyd cenhedlaeth newydd i themâu Houses of the Welsh Countryside gan gyfres deledu Gymraeg a gomisiynwyd gan S4C.  Yn y llyfr dwyieithog a oedd yn cyd-fynd â’r gyfres, Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru: Discovering Houses of the Welsh Countryside (2010), mae Peter yn trafod rhai o’r tai yr oedd wedi helpu i’w hachub.  Cyhoeddiad olaf Peter oedd hwn ac roedd yn ddiweddglo priodol i’w ymwneud hirfaith agadeiladau hanesyddol Cymru, sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar ein dealltwriaeth ni heddiw o bensaernïaeth werinol.


 
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin