Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 6 March 2013

Fforwm Archaeoleg yr Uwchdiroedd a Thaith Gerdded Dywys 2013





Dinas Emrys, Gwynedd
AP_2012_0086   NPRN 95284

Cynhelir Fforwm Archaeoleg yr Uwchdiroedd eleni ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ar Ddydd Gwener 10 Mai 2013. Ysgol undydd ar archaeoleg uwchdirol Gogledd Cymru sy’n dwyn y teitl ‘Archaeoleg yn y Mynyddoedd’ fydd y Fforwm ac fe’i trefnir gan y Comisiwn Brenhinol, Parc Cenedlaethol Eryri ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Yn ystod sesiwn y bore, bydd gweithwyr maes yn rhoi cyflwyniadau ar y gwaith a wnaed eleni fel rhan o brosiect archaeoleg yr uwchdiroedd, ac yn y prynhawn fe fydd cyfres o sgyrsiau a fydd yn manylu ar ganlyniadau’r gwaith diweddar a wnaed gan nifer o sefydliadau yn y parc cenedlaethol.

Ar y diwrnod wedi’r Fforwm, Dydd Sadwrn 11 Mai, fe fydd ymweliadau â safleoedd archaeolegol a hanesyddol yng nghyffiniau Llyn Cwmystradllyn ac yng Nghwm Ciprwth (sgwâr cilometr SH5247).

Bydd manylion pellach, a’r trefniadau bwcio ar gyfer y Fforwm a’r ymweliadau safle, yn cael eu rhoi yma yn nes at yr amser.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

1 comments:

Rhys Mwyn said...

Edrych ymlaen !

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin