Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 4 March 2013

Defnyddio Papurau Newydd Wedi’u Digido I Gynyddu Ein Gwybodaeth Am Y Gorffennol





Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol y Comisiwn Brenhinol yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd Dr Stephen Briggs sgwrs wybodus ar ‘Defnyddio Papurau Newydd wedi’u Digido i Atgyfnerthu’r Cofnod Archaeolegol’. Tynnodd sylw at y ffaith fod nifer enfawr o bapurau newydd wedi cael eu digido yn ystod y degawd diwethaf. Dechreuodd Dr Briggs ddefnyddio’r adnodd hwn wrth ymchwilio i archaeoleg ac archaeolegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth i sylweddoli y gallai papurau newydd ddarparu llawer iawn o wybodaeth allweddol am archaeoleg a hanes. Mae hyn yn cynnwys hanesion cyfoes am ddarganfod arteffactau a safleoedd, a hyd yn oed ddisgrifiadau o gloddiadau cynnar nad ydynt wedi’u cofnodi yn unman arall. Ar hyn o bryd mae Dr Briggs yn chwilio am bartneriaid i helpu i gopïo a chyhoeddi gwybodaeth am tua 1400 o gelciau arian bath o’r Oesoedd Canol ymlaen na wyddom amdanynt, a disgrifiadau o fwy na 450 o gladdfeydd o’r Oes Efydd gynnar yn yr Alban, y mae’r mwyafrif ohonynt yn anhysbys i ni.
Dr Briggs yn pwyntio at ddelwedd o 1817 yn dangos cynllun o safle claddu o’r Oes Efydd yn Crichie, Fife.

Daeth yn amlwg yn ystod sgwrs Dr Briggs fod hen bapurau newydd yn cynnwys toreth o wybodaeth unigryw, a bod papurau newydd wedi’u digido yn adnodd gwerthfawr ond wedi’i esgeuluso i’r sawl sy’n gwneud ymchwil archaeolegol a hanesyddol. Mae mwy a mwy o bapurau newydd o wahanol ffynonellau, gan gynnwys Archif Papurau Newydd Prydain a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael eu digido a’u rhoi ar-lein.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin