Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 7 February 2013

Llyfrgell Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru





Yn Ystafell Chwilio a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Tref llyfrau yw Aberystwyth. Mae’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgelloedd y Brifysgol a'r llyfrgell gyhoeddus newydd. Un o’i chyfrinachau pennaf yw’r trysor o gasgliad sy’n cael ei gadw yn llyfrgell Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn ogystal â chefnogi gwaith y staff, mae’r llyfrgell arbenigol fach hon yn darparu casgliad cyfeirio at ddefnydd y cyhoedd. Mae’n cynnwys llyfrau, tywyslyfrau, pamffledi, mapiau a chylchgronau yn ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig, yn amrywio o aneddiadau Neolithig i systemau cludiant rheilffordd ac o ddeddfwriaeth adeiladu i brosesu tunplat.

Yn fwyaf arbennig, mae yma lyfrau o ddiddordeb Cymreig sy’n adrodd hanes llunio Cymru fel tir ac fel cenedl. Maent hwy’n ymdrin â daeareg, topograffi, archaeoleg a phensaernïaeth y wlad. Ceir astudiaethau lleol, sirol a chenedlaethol sy’n disgrifio, dehongli ac esbonio sut y datblygodd Cymru. Mae’r adroddiadau a’r gweithiau cyfeirio yn y llyfrgell yn rhoi’r stori Gymreig mewn cyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a byd-eang. Pa un a ydych yn ymddiddori yn y Rhufeinwyr neu’r Oesoedd Canol, mewn nodweddion pensaernïol penodol megis gwydr lliw neu fframiau nenffyrch, mewn sut y gafaelodd y chwyldro diwydiannol yn y wlad a’i siapio, neu ym mha ffyrdd yr amlygodd Anghydffurfiaeth ei hun, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i lyfr i gynorthwyo’ch ymchwil yn llyfrgell y Comisiwn Brenhinol.

Casgliad unigryw ydyw sydd wedi tyfu drwy brynu eitemau a thrwy dderbyn rhoddion a llyfrau a gyflwynwyd yn lle ffioedd hawlfraint a thrwyddedu. Enghreifftiau yw English Vernacular Architecture gan Eric Mercer (1975) yn ein hadran bensaernïaeth, a Shipwreck Index of the British Isles Larn (2000) yn ein hadran forwrol. Mae gennym gasgliad bach o lyfrau prin ac argraffiadau cyntaf hefyd, gan gynnwys A Tour in Wales, cyfrol II (1783) gan Thomas Pennant ac An Historical Tour in Monmouthshire (1801) gan William Coxe sy’n cynnwys disgrifiadau a darluniau gwych o olygfeydd a hynafiaethau ysblennydd Cymru. Maent hwy hefyd yn darlunio rhai o ryfeddodau diwydiannol yr oes, megis Gwaith Haearn Blaenafon. 


Plât yn dangos Gwaith Haearn Blaenafon o An Historical Tour in Monmouthshire, William Coxe, 1801

Bydd ymwelwyr â’r llyfrgell yn darganfod cyfresi llawn o’r cylchgronau a gyhoeddwyd gan gymdeithasau sirol, hynafiaethol, archaeolegol a hanesyddol Cymru, sy’n cynnwys ffrwyth dros 100 mlynedd o waith cofnodi ac ymchwil. Hefyd, mae gan y llyfrgell amrywiaeth eang o gylchgronau archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol sy’n ymdrin â phynciau arbenigol, er enghraifft, peirianneg ddiwydiannol yn yr International Journal of History and Technology, a gyhoeddir gan Gymdeithas Newcomen, ac Anghydffurfiaeth Gymreig yn y Capel Newsletter.

Mae croeso i chi ddod i bori yng nghasgliad y llyfrgell o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9:30 a 4:00, Dydd Mercher 10:30 a 4:30.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn chc.cymru@cbhc.gov.uk neu ffoniwch 01970 621200.
Cynllun o Fryngaer Tre’r Ceiri o A Tour in Wales, cyfrol II, 1783 gan Thomas Pennant

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin