Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 21 January 2013

Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan - Gorffennol Digidol 2013





Bydd Dr Cheryl Morgan o Archifau Lleol Rhaglan yn rhoi sgwrs yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 am brosiectau digidol diweddaraf Grŵp Hanes Lleol Rhaglan a’r Cylch. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:
  • Prosiect Adrodd Straeon Digidol - archif ddigidol o gofnodion lleol a chyfryngau digidol yn http://www.raglan-history.org.uk/: gweithio gyda grwpiau ieuenctid i ddigido a chatalogio 800 a rhagor o hen ffotograffau, mapiau, ewyllysiau a dogfennau eraill, a chreu straeon digidol.

  • Prosiect Ffyrdd Lleol Rhaglan - yn cysylltu Plant Ysgol Gynradd Rhaglan â phobl a fu’n byw yn yr ardal ers amser maith. Cafodd CD ei gynhyrchu, yn cynnwys hen ffotograffau a chyfraniadau fideo gan drigolion oedrannus, i ddangos y newidiadau ym Mhentref Rhaglan yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ers dwy flynedd bellach, mae Ditectifs Hanes Rhaglan, clwb ar ôl ysgol, wedi bod yn dysgu hanes drwy astudio a chofnodi’r beddau ym Mynwent Eglwys Sant Cadog. 

  • Gwefan Wiki Domesday Pentref Rhaglan, ystorfa ar gyfer cofnodion hanesyddol ac atgofion lleol. Ers ei sefydlu, mae 30,000 o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld â’r wefan.

  • Y prosiect Tirnodau Treftadaeth presennol sy’n seiliedig ar godau QR
I gael manylion pellach, darllenwch y crynodeb llawn.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin