Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 3 January 2013

Prosiect digiDo yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013





Bydd Dr Ted Jones o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cyflwyniad ar y Prosiect digiDo yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Nod y rhaglen Theatr y Cof yw digido cymaint o ddeunydd printiedig yng Nghymru ag y bo modd a’i roi ar y rhyngrwyd fel y gellir ei gyrchu am ddim, a thrwy hynny gryfhau presenoldeb Cymru a’r Cymry ar y llwyfan byd-eang.

Rhai mentrau allweddol hyd yn hyn yw:
  • Y Bywgraffiadur Ar-lein sy’n cynnwys oddeutu 5,000 o fywgraffiadau am Gymry enwog a fu farw cyn 1 Ionawr 1971.
  • Cylchgronau Cymru Ar-lein lle gellir cyrchu detholiad o 50 o gyfnodolion modern a 300 o deitlau hanesyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Baladau Cymru Ar-lein sy’n cynnwys tua 4,000 o faladau wedi’u digido, yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg gan mwyaf.
  • Papurau Newydd Cymru Ar-lein, sef casgliad cyfan Llyfrgell Genedlaethol Cymru o bapurau newydd Cymreig cyn 1910: adnodd gwych o wybodaeth bob dydd yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys mwy nag 1 filiwn o dudalennau a 200 o deitlau papur newydd o bob rhan o Gymru.

Mae casgliadau’r Llyfrgell o lawysgrifau, ewyllysiau, archifau, mapiau, paentiadau, ffotograffau a lluniadau wedi cael eu digido hefyd.

Bydd Dr Jones yn siarad am y broses sganio, y system adnabod nodau gweledol (OCR), metadata, rheoli data a lledaenu data. I gael y crynodeb llawn ewch i’n tudalen siaradwyr.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin