Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 10 October 2012

The Story of Wales: A New Beginning





Pwll Glo Big Pit, Sir Fynwy
DI2006_0875  NPRN 433
Bydd y bumed raglen yng nghyfres BBC Cymru ar hanes Cymru, “The Story of Wales: A New Beginning”, yn edrych ar y mudo enfawr i gymoedd De Cymru a datblygiad y dociau yng Nghaerdydd a’r Barri yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn sgil darganfod glo rhydd yn y Rhondda. Bydd yn dangos cestyll mawreddog Caerdydd a Phenrhyn, a adeiladwyd â’r arian mawr a gynhyrchwyd gan y diwydiant glo yn y De a’r diwydiant llechi yn y Gogledd. Bydd y rhaglen hefyd yn ymdrin â chwaraeon, adloniant, corau meibion, ac ochr dywyllach diwydiannaeth - y tlodi, y damweiniau, y streiciau a’r cloi allan.


Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 5 raglen:


Unwaith eto, i’r sawl sydd â diddordeb, ceir ymdriniaeth wych â’r pynciau hyn yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd: Hidden Histories, sy’n cynnwys dwy adran ardderchog ar ‘Cymdeithas Oes Fictoria’ a ‘Cymru ym Mlynyddoedd Cynnar yr Ugeinfed Ganrif’. Yn ogystal, mae ein cyhoeddiadau diweddaraf, sy’n cynnwys Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales a Cymru Hanesyddol o'r Awyr / Historic Wales From the Air, yn gwneud cyfraniad allweddol i’n dealltwriaeth o’r newidiadau cyflym yn ystod yr oes hon. Gellir cael copïau o’n holl gyhoeddiadau drwy ein siop lyfrau, ac mae disgownt arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!


Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin